Yng nghalon Cwm Rhymni, ac yn hawdd ei gyrraedd o'r cymunedau cyfagos, mae Parc Coetir Bargod yn lle anarferol. Mae'n ymdebygu i gefn gwlad, ond nid yw hynny'n dangos ei gefndir diwydiannol. Mae hefyd yn cael ei newid; ei newid gan y bobl a fu'n byw ac yn gweithio yma flynyddoedd yn ôl a'r rhai sy'n byw yma heddiw. Crëwyd y parc ar safle tair glofa, ac mae wedi'i amgylchynu â'r cymunedau fu'n gweithio ynddynt, ac erbyn hyn mae Parc Coetir Bargoed yn lle i gerdded ac i chwarae.
Mae 11 o gatiau wedi'u cerfio y gallwch gyrraedd y parc drwyddynt, a byddwch yn ei gweld yn anodd credu mai tomen lo uchaf Ewrop oedd y lle tawel a naturiol hwn ar un adeg. Cerddwch ar hyd Afon Rhymni, a dychmygwch sut roedd yr afon wedi'i chaethiwo mewn twnnel enfawr. Erbyn hyn mae'n fyw o frowennod y dŵr, crehyrod, glas y dorlan, ac (os fyddwch chi'n lwcus) dyfrgwn.
Os edrychwch chi ar y llethrau onglog manwl, gyda therasau gwastad taclus, fe sylwch chi mai nid llwybrau ar ochr y bryniau sydd wedi'u gwisgo'n wastad gan garnau defaid a gwartheg dros gannoedd o flynyddoedd yw'r rhain, ond sleisiau wedi'u cerfio gan beirianyddion i rwystro mynyddoedd o wastraff glo rhag llifo i ffwrdd i lawr y bryn. Ar ôl cau'r lofa olaf ym 1985, siapiwyd y parc a'i symud, ei dorri, a'i lenwi, i'w roi yn ôl i natur. Erbyn hyn, mae'r man gwyrdd pwysig yma yn lle gwych i chi ei archwilio.
Cyn gynted ag y byddwch chi'n cyrraedd un o fynedfeydd niferus y parc, fe sylwch bod llawer o nodweddion celf yn y parc yma. Mae'r rhain yn amrywio o gerfiadau cerrig, polion wedi'u cerfio, ffensys artistig a'r cerflun o'r tri glöwr. Mae ganddon ni bêl-droediwr hyd yn oed! Mae'r cyfan yn dathlu hanes y tair glofa, Gilfach, Bargod a Britannia, a fu unwaith yn tra-arglwyddiaethu ar y cwm, a chyfraniad cymunedau lleol.
Mae digonedd o lwybrau sy'n croesi ar draws y parc, yn cynnig ystod o lwybrau cerdded, corneli cudd i'w harchwilio a golygfeydd i'w gweld. Mae'r prif lwybrau wedi'u nodi yn nhaflen y parc, ond mae llawer o rai eraill y gallwch eu defnyddio.
I'r rhai sy'n dymuno archwilio ymhellach, mae Llwybr 468 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn dechrau o faes parcio Pengam ac yn arwain yr holl ffordd i Drebiwt; neu gallwch droi ar hyd Llwybr 469 a cherdded neu feicio'n ddiogel i Barc Cwm Darran am baned o de haeddiannol.
Gall cerddwyr ddefnyddio'r parc fel man cychwyn i ddilyn Taith Gerdded ar Lan Afon Rhymni. Mae rhagor o wybodaeth am y daith hon ar gael ar y dudalen Teithiau Cerdded.
Ble mae'r parc? Mae Parc Coetir Bargod wedi'i leoli rhwng cymunedau Aberbargoed, Bargod, Britannia, Gilfach a Phengam. NP12 3SY
Sut i gyrraedd Mewn car - Mae'r A469 yn rhannu'r parc o'r gogledd i'r de. Ar fws - Mae gwasanaeth bysiau da ym Margoed. Ar feic - Llwybrau 468 a 469 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Ar drên - Yr orsaf drenau agosaf yw Bargoed a Gilfach Fargoed. (5 munud o gerdded)
Oriau agor Mae'r parc ar agor drwy'r flwyddyn. Mae mynediad i'r parc am ddim.
Meysydd parcio Mae maes parcio bach ar ben deheuol y parc wrth y Stryd Fawr, Pengam.
Pwyntiau mynediad eraill Mae modd cyrraedd y parc o sawl mynediad cyfleus i'r cymunedau lleol wrth gerdded neu feicio. Pengam - y Stryd Fawr (2); Gilfach - Angel Lane; Britannia - Angel Lane\Farm View; Aberbargoed - Stryd Commercial, Stryd y Capel a Heol Bedwellty; Bargoed - Gorsaf Ambiwlans a Heol yr Orsaf.
Toiledau Does dim toiledau ar y safle.
Hygyrchedd Mae mannau parcio i ddeiliaid bathodyn glas ym maes parcio'r Stryd Fawr, Pengam. Tarmac yn bennaf yw'r prif lwybrau drwy'r parc coetir. Mae rhwystrau sy'n addas ar gyfer sgwteri symudol wrth y rhan fwyaf o bwyntiau mynediad i'r parc, ond mae'n bosib y gall rhai o'r mynedfeydd llai fod ychydig yn fwy rhwystrol. Mae digon o feinciau ar hyd ochr y prif lwybr. Ar wahân i'r llwybrau tarmac mae gan lwybrau eraill arwyneb naturiol neu arwyneb o lwch cerrig.
Y Ganolfan Ymwelwyr, Parc Cwm Darran, Deri, Bargoed, CF81 9NR
Ffôn: 01443 875557
E-bost: ParcCwmDarran@caerffili.gov.uk