Next

Os ydych chi'n chwilio am le i bysgota, yna mae'n bosib bod ein mannau gwyrdd yn berffaith ar eich cyfer chi. Mae gan Barc Cwm Darran, Parc Penallta a Phwll Pen-y-Fan gyfleusterau pysgota. Clybiau pysgota lleol sy'n rheoli'r holl safleoedd hyn, nid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae tocynnau dydd ar gael i bobl nad ydyn nhw'n aelodau.

Fishing at Pen-y-Fan Pond

Parc Cwm Darran

Math o Ddŵr   Llyn Bach

Math o Bysgota   Pysgodfa fras â rhywogaethau cymysg

Stoc y Bysgodfa   Ail-stociwyd y bysgodfa ddechrau 2018 gyda charp hyd at chwe phwys, a rhai miloedd o rufelliaid rhwng 4 a 10 modfedd o hyd. Mae rhywfaint o'r stoc gwreiddiol yn dal i oroesi yn y llyn, ac ar gyfartaledd mae'r carpiaid oddeutu 15 pwys. Mae draenogiaid dŵr croyw a llyfrothod dŵr croyw hefyd yno i'w dal.

Caiff y Bysgodfa ei Rheoli gan   Gymdeithas Bysgota Rhymni a'r Cylch

Rheolau'r Bysgodfa   Mae angen trwydded wialen ar unrhyw blant sy'n dymuno cymryd rhan mewn twrnamaint

  • Dim abwyd cig
  • Bachau didagell yn unig
  • Dim pysgota gyda'r nos
  • Dim rhwydi cadw
  • Dim tuniau ar ochr y llyn
  • Rhaid bod trwyddedau ar gael i'w harchwilio ar bob adeg
  • Dylech drin y pysgod â gofal
  • Rhaid mynd â'ch sbwriel adre gyda chi

Cyfleusterau Pysgota Anabl   Oes

Trwyddedau dydd   Mae trwyddedau dydd (£5 i Oedolion, £2 i blant o dan 16 oed) ar gael o Green's Fishing Tackle, Pontllan-fraith (01495 221881), Swyddfeydd Post Deri a Fochriw, a gan swyddogion eraill Cymdeithas Bysgota Rhymni a'r Cylch.

Parc Penallta

Math o Ddŵr   Dau bwll bach gyda phegiau pysgota pwrpasol

Math o Bysgota   Pysgodfa fras â rhywogaethau cymysg

Stoc y Bysgodfa   Mae gan y ddau bwll stoc o rufelliaid, pysgod rhudd a draenogiaid dŵr croyw sydd hyd at 1 pwys. Merfogiaid, sgretenod a byrbysgod hyd at 2 bwys a charp cyffredin/gloyw/ysbryd hyd at 10 pwys.

Rheolir y Bysgodfa gan   Ffederasiwn Clybiau Pysgota Afon Rhymni

Rheolau'r Bysgodfa 

  • Dim pysgota gyda'r nos, gwersylla na chynnau tân
  • Bachau didagell yn unig
  • Rhaid dychwelyd yr holl bysgod i'r dŵr
  • Rhaid i bob pysgotwr gael rhwyd lanio.

Cyfleusterau Pysgota Anabl   Oes

Trwyddedau Dydd   Mae pysgota am ddim i aelodau clybiau pysgota sy'n gysylltiedig â Ffederasiwn Clybiau Pysgota Afon Rhymni. Rhaid prynu tocyn dydd ymlaen llaw (£5 i Oedolion, £2 i blant o dan 16 oed) os nad ydych chi'n aelod o'r clybiau hyn. Nid oes modd prynu tocynnau dydd ar lan yr afon. Gellir prynu tocynnau gan Green's Fishing Tackle, Pontllan-fraith (01495 221881) a Tony's Tackle, Caerffili (029 2088 5409).

Pwll Pen-y-Fan

Math o Ddŵr   Cronfa Ddŵr

Math o Bysgota   Hela - Pysgota â phlu

Stoc y Bysgodfa   Brithyllod Brown a Seithliw

Rheolir y Bysgodfa gan    Glwb Pysgota Islwyn a'r Cylch

Cyfleusterau Pysgota Anabl   Nac oes

Trwyddedau Dydd   Mae trwyddedau dydd (£10 am dri physgodyn) ar gael o siop Greens Tackle, Pontllan-fraith, 01495 221881 neu ar-lein ar wefan Clwb Pysgota Islwyn a'r Cylch

Ni chaniateir pysgota yn ein mannau gwyrdd nac yn y pyllau eraill ym Mharc Penallta a Pharc Cwm Darran.

Cynnwys a Awgrymir