Agorwyd y parc fel parc hamdden yn 1934, ac mae'r man gwyrdd wedi ei chreu er cof am Morgan Jones AS, sef gwrthwynebydd cydwybodol mwyaf nodedig Cwm Rhymni yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Morgan Jones oedd y Gwrthwynebydd Cydwybodol cyntaf i gael ei ddychwelyd i Senedd y Deyrnas Gyfunol ar ôl y Rhyfel, ac yn ddiweddarach daeth yn arbenigwr addysg y Blaid Lafur. Mae Parc Morgan Jones, sydd â gwobr y Faner Werdd, yn ased gwerthfawr i amgylchedd Caerffili ac mae'n cael ei gydnabod fel man pwysig ac ardal sy'n destun balchder i bobl y dref.
Mae'r planhigion lliwgar trefol yn cyferbynnu'n dda gyda'r ddôl o flodau gwylltion llai ffurfiol sy'n cyferbynnu'r traddodiadol gyda'r modern. Bydd modd difyrru'r plant ieuengaf yn y maes chwarae a'r pad sblasio dŵr tra bod eich plant hŷn yn gallu mwynhau'r parc sglefrio a'r ardal gemau aml-ddefnydd. Mae digon o chwaraeon ar gael hefyd gyda chae pêl-droed, llain griced yn yr haf, cyrtiau tennis a llain fowlio. Gall pawb gadw eu hunain mewn cyflwr da drwy ddefnyddio'r offer campfa awyr agored sydd ar gael yn y parc.
Hwyl, blodau neu ffitrwydd, mae gan Barc Morgan Jones rhywbeth at ddant pawb!
Mae ein pad sblasio dŵr yn cynnig profiad chwarae unigryw yn yr haf. Mae pedwar chwistrell yn sicrhau bod y dŵr yn dod atoch chi o bob cyfeiriad ac mae'n sicr yn ffordd o gadw'n cŵl dros fisoedd yr haf. Mae'r pad sblasio ar agor yn ystod yr haf.
Mae yna hefyd sesiynau hamddenol i blant ag anghenion ychwanegol ar gael bob dydd Iau rhwng 10 ac 11am. Does dim angen archebu lle, dewch draw i gael hwyl!
Bydd ein parc sglefrio newydd sbon yn creu lle delfrydol i bobl ddod i sgrialu ar fyrddau a beiciau yng Nghaerffili. Gyda'r fowlen ddofn a'r rheilen ganolog, byddwch chi'n dysgu sgiliau a thriciau newydd mewn dim o dro.
Ble mae'r parc? Mae Parc Morgan Jones yng nghanol Caerffili, rhwng Heol Nantgarw a Heol y Felin i'r gogledd-orllewin o Gastell Caerffili.
Sut i gyrraedd Mewn car - B4600 (Heol Nantgarw), Caerffili. Ar fws - Mae llawer o wasanaethau yn mynd ar hyd Heol Nantgarw a Heol y Felin. Ar feic - Mae llwybr R475 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhedeg drwy'r parc. Ar drên - Gorsaf Aber (10 munud o gerdded), Gorsaf Caerffili (15 munud o gerdded).
Oriau agor Mae'r parc ar agor yn ystod oriau golau dydd drwy gydol y flwyddyn. Mae mynediad i'r parc am ddim.
Meysydd parcio Mae arwyddion i'ch cyfeirio at y maes parcio sydd oddi ar Heol Nantgarw (B4600), gyferbyn â Heol Crescent.
Pwyntiau mynediad eraill Mae modd cael mynediad i'r parc ar droed neu ar feic oddi ar Heol y Felin.
Toiledau Oriau agor yn ystod yr haf yw rhwng 7:00 a 18:00. Oriau agor yn ystod y gaeaf yw rhwng 7:30 a 16:30 (dydd Llun i ddydd Iau), 14:30 (dydd Gwener).
Caffi Mae'r Hen Lyfrgell, sef caffi menter gymdeithasol, wedi'i lleoli wrth y brif fynedfa. Oriau agor y caffi yw rhwng 9:00 a 17:00 (o ddydd Llun i ddydd Sadwrn) a rhwng 11:00 a 16:00 (dydd Sul).
Hygyrchedd Mae tarmac wedi'i osod ar y llwybrau sydd, ar y cyfan, yn wastad. Does dim bariau rhwystro wedi'u gosod ar y mynedfeydd. Mae gofodau parcio anabl ar gael yn y maes parcio ac mae'r toiledau'n cynnwys cyfleusterau anabl sy'n bosib eu hagor gydag allwedd RADAR. Mae digonedd o feinciau wedi'u lleoli o amgylch y parc.
Gwasanaethau Parciau, Tŷ Bargod, 1 St Gwladys Way, Bargod, CF81 8AB
Ffôn: 01443 811452
E-bost: parciau@caerffili.gov.uk