Next

Agorwyd y parc fel parc hamdden yn 1934, ac mae'r man gwyrdd wedi ei chreu er cof am Morgan Jones AS, sef gwrthwynebydd cydwybodol mwyaf nodedig Cwm Rhymni yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Morgan Jones oedd y Gwrthwynebydd Cydwybodol cyntaf i gael ei ddychwelyd i Senedd y Deyrnas Gyfunol ar ôl y Rhyfel, ac yn ddiweddarach daeth yn arbenigwr addysg y Blaid Lafur. Mae Parc Morgan Jones, sydd â gwobr y Faner Werdd, yn ased gwerthfawr i amgylchedd Caerffili ac mae'n cael ei gydnabod fel man pwysig ac ardal sy'n destun balchder i bobl y dref.

Mae'r planhigion lliwgar trefol yn cyferbynnu'n dda gyda'r ddôl o flodau gwylltion llai ffurfiol sy'n cyferbynnu'r traddodiadol gyda'r modern.  Bydd modd difyrru'r plant ieuengaf yn y maes chwarae a'r pad sblasio dŵr tra bod eich plant hŷn yn gallu mwynhau'r parc sglefrio a'r ardal gemau aml-ddefnydd. Mae digon o chwaraeon ar gael hefyd gyda chae pêl-droed, llain griced yn yr haf, cyrtiau tennis a llain fowlio. Gall pawb gadw eu hunain mewn cyflwr da drwy ddefnyddio'r offer campfa awyr agored sydd ar gael yn y parc.

Hwyl, blodau neu ffitrwydd, mae gan Barc Morgan Jones rhywbeth at ddant pawb!

Beth sydd i'w wneud a'i weld

Mwy o ddŵr mwy o firi

Mae ein pad sblasio dŵr yn cynnig profiad chwarae unigryw yn yr haf. Mae pedwar chwistrell yn sicrhau bod y dŵr yn dod atoch chi o bob cyfeiriad ac mae'n sicr yn ffordd o gadw'n cŵl dros fisoedd yr haf. Mae'r pad sblasio ar agor yn ystod yr haf.

Mae yna hefyd sesiynau hamddenol i blant ag anghenion ychwanegol ar gael bob dydd Iau rhwng 10 ac 11am. Does dim angen archebu lle, dewch draw i gael hwyl!

Parc Sglefrio

Bydd ein parc sglefrio newydd sbon yn creu lle delfrydol i bobl ddod i sgrialu ar fyrddau a beiciau yng Nghaerffili. Gyda'r fowlen ddofn a'r rheilen ganolog, byddwch chi'n dysgu sgiliau a thriciau newydd mewn dim o dro.

Cynllunio eich ymweliad

Ble mae'r parc?  Mae Parc Morgan Jones yng nghanol Caerffili, rhwng Heol Nantgarw a Heol y Felin i'r gogledd-orllewin o Gastell Caerffili.

Sut i gyrraedd   Mewn car - B4600 (Heol Nantgarw), Caerffili. Ar fws - Mae llawer o wasanaethau yn mynd ar hyd Heol Nantgarw a Heol y Felin. Ar feic - Mae llwybr R475 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhedeg drwy'r parc. Ar drên - Gorsaf Aber (10 munud o gerdded), Gorsaf Caerffili (15 munud o gerdded).

Oriau agor   Mae'r parc ar agor yn ystod oriau golau dydd drwy gydol y flwyddyn. Mae mynediad i'r parc am ddim.

Meysydd parcio   Mae arwyddion i'ch cyfeirio at y maes parcio sydd oddi ar Heol Nantgarw (B4600), gyferbyn â Heol Crescent.

Pwyntiau mynediad eraill   Mae modd cael mynediad i'r parc ar droed neu ar feic oddi ar Heol y Felin. 

Toiledau   Oriau agor yn ystod yr haf yw rhwng 7:00 a 18:00. Oriau agor yn ystod y gaeaf yw rhwng 7:30 a 16:30 (dydd Llun i ddydd Iau), 14:30 (dydd Gwener).

Caffi   Mae'r Hen Lyfrgell, sef caffi menter gymdeithasol, wedi'i lleoli wrth y brif fynedfa. Oriau agor y caffi yw rhwng 9:00 a 17:00 (o ddydd Llun i ddydd Sadwrn) a rhwng 11:00 a 16:00 (dydd Sul).

Hygyrchedd   Mae tarmac wedi'i osod ar y llwybrau sydd, ar y cyfan, yn wastad. Does dim bariau rhwystro wedi'u gosod ar y mynedfeydd. Mae gofodau parcio anabl ar gael yn y maes parcio ac mae'r toiledau'n cynnwys cyfleusterau anabl sy'n bosib eu hagor gydag allwedd RADAR. Mae digonedd o feinciau wedi'u lleoli o amgylch y parc.

Gwybodaeth Gyswllt

Gwasanaethau Parciau, Tŷ Bargod, 1 St Gwladys Way, Bargod, CF81 8AB

Ffôn: 01443 811452 

E-bost: parciau@caerffili.gov.uk

Cynnwys a Awgrymir