Next

Wedi'i gerfio o hen domen lo, mae Parc Penallta yn adnabyddus fel "y lle sydd â'r ceffyl". Fel un o gloddweithiau ffigurol mwyaf y wlad, mae "Swltan y Ferlen Pwll Glo" yn denu ymwelwyr o bell ac agos sy'n dod i'w edmygu. Ond nid Swltan yn unig sydd i'r parc, er mor nodedig ydyw. Os dringwch chi i'r Arsyllfa Pwynt Uchel, cewch olygfeydd panoramig ar draws cymoedd y de. Wrth i chi archwilio'r safle amrywiol hwn, mae'n anodd dychmygu bod y lle hardd a thawel hwn yn domen lo ddu 30 mlynedd yn ôl.

Mae Parc Penallta yn lle i'w archwilio. O'r ardaloedd agored ac eang ar y llwyfandir i'r mannau mwy clos yn rhan gwaelod y safle, mae digon o berlau cudd i'w canfod. Cerddwch drwy ein twnnel helyg, gwyliwch batrymau awyrol gwas y neidr uwch y pwll, neu dewch o hyd i'r Cawr Cwsg, a bydd eich gwobr yn werth yr ymdrech.

Beth sydd i'w wneud a'i weld

Swltan y Ferlen Pwll Glo

Does dim ymweliad â Pharc Penallta yn gyflawn heb weld Swltan y Ferlen Pwll Glo. Swltan yw nodwedd eiconig y parc. Yn 200 medr o hyd ac yn 15 medr o uchder, dyma un o gloddweithiau ffigurol mwyaf y wlad. Enwyd hi'n Swltan gan y bobl leol ar ôl un o'r merlod pwll "sioe" poblogaidd o Bwll Glo Penallta gyfagos. Yn y gwanwyn, mae ganddi got o friallu Mair, ac yn yr haf mae'n sïo i sŵn gwenyn a phryfaid. Yn gyfagos gwelwch byllau siâp carn; ei holion ar ôl iddi fod yn carlamu gyda'r nos tybed? Eisteddwch yn ei chlust a mwynhau'r golygfeydd, neu ewch i'r arsyllfa gyfagos i weld Swltan y Ferlen Pwll Glo yn ei chyfanrwydd.

Arsyllfa Pwynt Uchel

I weld golygfa orau'r parc, ewch i'r Arsyllfa Pwynt Uchel lle cewch olygfeydd panoramig 360° syfrdanol o'r wlad sy'n amgylchynu'r parc. Yn edrych fel petai llong ofod estron wedi glanio, mae'r chwe "adain" yn pwyntio tuag at y cymunedau lleol o gwmpas y parc. Helpodd y cymunedau hynny i'w dylunio, ac mae pob un yn cyfleu darluniau o dreftadaeth leol, bywyd gwyllt naturiol a bywyd hamdden.

High Point Observatory

Bywyd Gwyllt

Gyda'i gymysgedd o goetiroedd, pyllau a gwelltiroedd, mae Parc Penallta yn gartref i ystod amrywiol o fywyd gwyllt. Cadwch lygad am sawl rhywogaeth o degeirian ar ddechrau'r haf, sawl math o was y neidr a mursennod, ac archwiliwch yr erwau o ddolydd blodeuog sy'n fyw â glöynnod byw, gwenyn a phryfaid eraill drwy gydol yr haf. Gellir gweld haid o nicos yn bwydo ar gonau gwern a phennau hadau drwy'r hydref, ac mae siawns dda o weld cnocellod gwyrddion a chochion y berllan ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Yn y gaeaf, gwyliwch heidiau o'r drudwy yn dychwelyd i'r gwelyau cyrs o gwmpas Cors Nelson. Mae'r ardal natur Cors Penallta yma hefyd, enghraifft fechan o rosydd cyfoethog o flodau gwylltion a phryfaid.

Cewch chi’r wybodaeth ddiweddaraf am fywyd gwyllt Parc Penallta drwy ein cylchlythyr rheolaidd, Pigion Penallta.

Llwybrau a Theithiau Cerdded

Mae milltiroedd o lwybrau i'w dilyn ym Mharc Penallta, ond rydyn ni wedi nodi cyfeirbwyntiau ar gyfer tri llwybr cerdded o wahanol hyd i chi gael dechrau arni. Mae pob un yn dechrau o'r prif faes parcio, ac maent ar gael yn nhaflen Parc Penallta:

  • Llwybr Swltan (1.6km) - yn mynd heibio i Swltan a rhai darnau celf. Llwybrau o wair a llwch cerrig; rhywfaint yn donnog yn gyffredinol ond dau lethr serth byr.
  • Llwybr yr ehedydd (2.1km) - yn mynd heibio i Swltan, golygfeydd da, ardal dawelach o'r safle. Llwybrau o wair a cherrig; rhywfaint yn donnog yn gyffredinol ond dau lethr serth.
  • Llwybr y Cnocell (3.7 km) – cylchdaith fwyaf y safle gyda golygfeydd da. Llwybrau o wair a llwch cerrig; dau lethr serth hir.

Gyda'r Daith Sain, does dim angen i chi adael cysur eich cartref, ond rydyn ni'n argymell eich bod chi'n gwneud! Nid yw'n lwybr tywys fel y cyfryw, ond cyfres o recordiadau sain sy'n disgrifio rhywfaint o'r cefndir y tu ôl i nodweddion hudol y parc. Ewch i'r dudalen Teithiau Sain i wrando, neu llwythwch y clipiau sain i lawr.

I'r rhai sy'n dymuno archwilio ymhellach, mae'r parc yn cynnig man cychwyn gwych. Gall beicwyr ddefnyddio Llwybr 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, a beicio'n ddiogel at Barc Gwledig Cwm Sirhywi yn y dwyrain, neu tuag at Barc Taf Bargoed a Thaith Taf yn y gorllewin. Os fyddwch chi'n cerdded, beth am ddilyn y daith 8 milltir Dihangwch i... Comin Eglwysilan neu'r daith llawer yn hirach 27 milltir o hyd Brasgamu Ymlaen... Taith Cefnffordd Cwm Rhymni.

A mwy...

Mae digon i chi ei ddarganfod. Cerddwch allan at Lyn Crannog, dewch i bysgota yn ein pyllau pysgota pwrpasol, chwiliwch am gerfluniau neu hedfanwch farcud yn yr Arena Digwyddiadau, buan y daw'n amlwg i chi'n fuan pam fod Parc Penallta yn lle mor boblogaidd i fwynhau'r awyr agored.

Cynllunio eich ymweliad

Ble mae'r parc?   Mae Parc Penallta ar gyrion gorllewinol Ystrad Mynach.

Sut i gyrraedd   Mewn car - Dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown ar gylchdro Tredomen ar yr A472 yn Ystrad Mynach. Mae'r brif fynedfa a'r maes parcio rhwng Ystrad Mynach a Gelligaer ar Heol Penalltau. Ar fws - Gwasanaethau C16 Caerffili i Nelson, Gwasanaeth C17 Bargoed i Gaerffili a Gwasanaeth 7 y Coed-duon i Bontypridd. Ar feic - Mae'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhedeg drwy rhan isaf y parc. Ar drên - yr orsaf drenau agosaf yw Ystrad Mynach (10 munud o gerdded) a Hengoed (30 munud o gerdded). 

Oriau agor   Mae'r parc ar agor drwy'r flwyddyn. Mae mynediad i'r parc am ddim.

Meysydd parcio   Mae dau faes parcio; mae'r prif faes parcio (oddi ar Heol Penalltau) yn fwy cyfleus ar gyfer rhan uchaf y safle, ble mae Swltan y Ferlen Pwll Glo, yr Arena Ddigwyddiadau, a'r Arsyllfa Pwynt Uchel. Mae maes parcio Fforest, oddi ar yr A472, yn arwain at ran isaf y safle ar gyfer y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, Llyn Crannog neu'r Llynnoedd Pysgota. Noder bod gât maes parcio Fforest yn cau am 5:30yh (haf) a 4:30yh (gaeaf). 

Pwyntiau mynediad eraill   Gellir cael mynediad ar droed neu ar feic ar hyd Llwybr R47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol o Nelson i Ystrad Mynach. Mae mynedfeydd eraill wedi'u lleoli wrth Barc Busnes Tredomen, Buzzard Way yng Nghwm Calon a llwybrau troed amrywiol ar draws caeau gogleddol y parc. 

Swyddfa a Chanolfan Addysg y Parc   Mae swyddfa fach y parc a Chanolfan Addysg i'w defnyddio gan ysgolion a grwpiau sy'n ymweld wedi'u lleoli'n agos at y brif fynedfa oddi ar Heol Penalltau. Mae amseroedd agor yn amrywio yn dibynnu ar argaeledd y staff.

Toiledau   Mae toiled compost ecogyfeillgar wedi'i leoli rhwng y prif faes parcio a'r Arena Ddigwyddiadau. Mae'r toiled ar agor 9:00-5:00yh (haf) a 9:00-4:00yp (gaeaf). Mae toiledau hefyd ar gael yn y Ganolfan Addysg, ond mae'n dibynnu os yw'r Ganolfan ar agor. (Mae'r toiledau hyn ar gau ar hyn o bryd) 

Byrddau picnic   Mae byrddau picnic wedi'u lleoli wrth yr Arena Ddigwyddiadau, Llyn Crannog a'r Llynnoedd Pysgota.

Hygyrchedd   Gellir rhannu Parc Penallta yn ddwy ardal amlwg o ran hygyrchedd. Mae'r ardal o gwmpas y prif faes parcio a'r Arena Ddigwyddiadau yn gymharol wastad, gyda llwybrau llwch cerrig a all fod yn eithaf garw mewn rhai rhannau. Ar hyd gwaelod y cwm, mae'r llwybr beicio a'r llwybr o faes parcio Fforest yn wastad ac mae ganddo arwyneb tarmac rhan fwyaf, er bod graddiant yn arwain at y maes parcio. Yn cysylltu'r ddwy ardal, mae'r llwybrau'n serth gydag arwyneb garw o gerrig. Mae nifer fawr o lwybrau gwair ac arwyneb naturiol ar draws y safle hefyd. Does dim llawer o bwyntiau rheoli mynediad, ac mae pob un yn addas ar gyfer sgwter symudedd heblaw am y rhai ar yr hawl dramwy gyhoeddus sy'n arwain at y ffermdir sy'n amgylchynu. Mae meinciau wedi'u gosod o gwmpas yr Arena Ddigwyddiadau ac ar hyd Llwybr 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Gwybodaeth Gyswllt

Y Ganolfan Addysg, Parc Penallta, Heol Penallta, Ystrad Mynach, Hengoed. CF82 7GL.

Ffôn: 01443 816853

E-bost: cefngwlad@caerffili.gov.uk

Cynnwys a Awgrymir