Next

Cysylltiadau cludiant hen a newydd sydd i'w gweld ym Mharc Gwledig Cwm Sirhywi. Nawr gallwch fynd am dro hamddenol at yr hen reilffordd a oedd yn rhedeg o Dredegar yn y gogledd at ddociau Casnewydd yn y de. Bron yn bedair milltir o hyd, mae digon o lwybr gwastad gydag arwyneb da i gerdded ar ei hyd. Fel arall, gallwch gerdded neu feicio (gyda beic mynydd yn ddelfrydol!) drwy'r coetir sy'n codi o lan yr afon ac yn ymestyn i fyny ochrau'r cwm. Os hoffech daith haws ar y beic, mae Llwybr 47 (Llwybr Celtaidd) y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhedeg ar hyd y parc a'r tu hwnt. Felly gall y rhai sy'n dymuno archwilio ar y beic ddilyn y llwybr tua'r gorllewin, gan groesi Traphont Hengoed ac ymlaen at Barc Penallta.

Ond mae gan Barc Gwledig Cwm Sirhywi lawer mwy i'w gynnig na'r hen rheilffordd. Mae'r parc gwledig hefyd yn codi i ochr y bryn uwch eich pennau, ac i'r coetiroedd a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnig ystod ehangach o brofiad cerdded mwy heriol. Fel arall, gallwch fynd i lawr tua glan Afon Sirhywi, ac ymlwybro yng nghwmni'r golygfeydd a sŵn y dŵr yn byrlymu heibio ar ei ffordd i lawr yr afon.

Cadwch lygad am Bont Tramffordd Penllwyn, gyda thrawstiau gwreiddiol o garreg, neu darganfyddwch Capel y Babell, lle claddwyd Islwyn y bardd. Mae dau o'n gwarchodfeydd natur lleol ym Mharc Gwledig Cwm Sirhywi hefyd, Graig Goch a Dolydd y Tir Gwastad, a'n fferm fynydd draddodiadol yn Ynys Hywel.

Beth sydd i'w wneud a'i weld

Capel y Babell

Wedi'i leoli ar gyrion Cwmfelinfach mae Capel y Babell a'i waliau gwynion. Fe'i codwyd yn 1827, ac erbyn hyn mae'r capel yn adeilad cofrestredig Gradd II, sydd hefyd o bwys hanesyddol oherwydd ei gysylltiadau ag Islwyn y bardd. Enw barddol William Thomas oedd Islwyn, a gymerodd ei ffugenw gan Fynyddislwyn gyfagos. Fe'i claddwyd yn y fynwent fach yn y capel. Yn anffodus, mae'r adeilad wedi cau i ymwelwyr achlysurol, ond efallai ei bod yn bosib ymweld drwy drefniant arbennig. Cysylltwch â swyddfa'r parc i gael rhagor o fanylion.

Pont Tramffordd Penllwyn

Dyma bont uchel sengl o garreg, wedi'i hatgyfnerthu â bric, sydd 15 medr/50 troedfedd uwch ben Afon Sirhywi. Cwblhawyd y fwa drawiadol yn 1824 er mwyn i Dramffordd Penllwyn groesi'r afon i gwrdd â thramffordd Cwm Sirhywi ar y Nine Mile Point. Ychwanegwyd bwa o friciau i gryfhau'r bont pan newidiwyd y dramffordd i reilffordd yn 1864. Dyma enghraifft arbennig o strwythur tramffordd cynnar, gyda'r trawstiau gwreiddiol o garreg, ac mae wedi'i restru fel Gradd II.

Bywyd Gwyllt

Gallwch ymweld â'r ddwy warchodfa natur, Graig Goch a Dolydd y Tir Gwastad, neu fwynhau'r cyfoeth o fywyd gwyllt sydd ar gael drwy'r parc.

Llwybrau a Theithiau Cerdded

Mae tri llwybr byr y gallwch eu dilyn eich hun yn y parc gwledig - Llwybr yr Afon, Llwybr y Dolydd a Llwybr y Coetir. Mae hefyd Llwybr Beicio Mynydd sy'n defnyddio ffyrdd y goedwig yng nghoetir Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae manylion y llwybrau hyn ar gael yn nhaflen Parc Gwledig Cwm Sirhywi. I'r rhai sy'n chwilio am heriau cerdded hirach, mae Taith Cwm Sirhywi (27 milltir) a Thaith y Gigfran(12 milltir) yn mynd drwy'r parc. I'r beicwyr mwy anturus, cofiwch am Lwybr Tri Pharc sy'n ymestyn 13 milltir o'r Full Moon drwy Barc Penallta i Barc Taf, Bargoed. Os ydych chi'n teimlo'n egnïol, gallech ddilyn y Llwybr Celtaidd yr holl ffordd i Sir Benfro! Edrychwch ar ein tudalennau Llwybrau Cerdded a Beicio i gael taflenni a rhagor o wybodaeth.

Cynllunio eich ymweliad

Ble mae'r parc?   Mae Parc Gwledig Cwm Sirhywi yn rhedeg ar hyd ochr orllewinol Cwm Sirhywi, rhwng cylchdro'r Full Moon yn Crosskeys a Gelligroes.

Sut i gyrraedd?   Mewn car - mae arwyddion at y brif fynedfa o'r A4048 yn Crosskeys. Ar fws - Gwasanaeth 56 Casnewydd i Dredegar. Ar feic - Llwybr 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Ar drên - Yr orsaf drenau agosaf yw Crosskeys (16 munud o gerdded)

Oriau agor   Mae'r parc ar agor drwy'r flwyddyn. Mae mynediad i'r parc am ddim.

Meysydd parcio   Mae'r prif feysydd parcio wedi'u lleoli yn y Full Moon a'r Nine Mile Point, ac mae rhai llai i'w cael ym Mhont Lawrence Rees a Heol Glanhywi, Wyllie. Nodwch bod gât maes parcio Nine Mile Point yn cau am 4:00yp (gaeaf) a 5:00yp (haf). 

Pwyntiau mynediad eraill   Mae modd cael mynediad ar droed neu ar feic drwy'r mynedfeydd yn y Nine Mile Point, Bwthyn y Full Moon, Pont Lawrence Rees, Ynysddu a Wyllie. Mae modd cael mynediad at y parc drwy'r Llwybr Beicio Cenedlaethol 47, yn Gelligroes a Crosskeys hefyd.

Toiledau   Mae toiledau wedi'u lleoli ym Mwthyn y Full Moon ac maent ar agor bob dydd rhwng 9:00yb - 4:00pm (gaeaf) a 9:00yb - 5:00pm (haf). Mae'r toiled anabl ar gael ar unrhyw adeg gydag allwedd RADAR. 

Byrddau picnic   Mae byrddau picnic ar gael yn y Nine Mile Point, Bocs Rhif 1 a Dolydd y Tir Gwastad.

Hygyrchedd   Mae arwyneb tarmac gwastad ar y prif lwybr drwy'r parc gwledig, yn dilyn yr hen reilffordd. Mae gatiau mynediad addas i sgwteri symudedd wrth yr holl bwyntiau mynediad i'r parc, er bod mynedfeydd serth gan Bont Lawrence Rees ac Ynysddu, ac adran Crosskeys o Lwybr 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mae digon o feinciau ar hyd ochr y prif lwybr. Oddi wrth y llwybr cylchol mae llwybrau eraill wedi'u gwneud o lwch cerrig neu arwynebau naturiol. Gall y rhain fod yn serth ac yn arw, yn enwedig y rhai sy'n dringo at goetir Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gwybodaeth Gyswllt

Y Ganolfan Addysg, Parc Penallta, Heol Penallta, Ystrad Mynach, Hengoed. CF82 7GL.

Ffôn: 01443 816853

E-bost: cefngwlad@caerffili.gov.uk

Cynnwys a Awgrymir