Dewch i ddarganfod ardaloedd gwledig gwych bwrdeistref sirol Caerffili ar droed. Mae tri chwarter y fwrdeistref sirol yn ardal wledig.
Mae ganddon ni amrywiaeth o deithiau cerdded rhwng tair a 32 milltir. Drwy ddilyn un o'r canllawiau yma, gallwch brofi golygfeydd godidog a thirwedd hanesyddol gwych sydd i'w gweld yn ein cefn gwlad. Mae gyda ni gyfres o deithiau Brasgamu Ymlaen... a fydd yn her i rai o'r cerddwyr mwyaf profiadol a'r gyfres Dihangwch i... sy'n deithiau cerdded mwy hamddenol rhwng pump ac wyth milltir o hyd. Os yw'r teithiau yma'n swnio'n rhy anodd i chi ar hyn o bryd, rhowch gynnig ar ein teithiau byrrach yng nghyfresi Cerwch Ati...! a Daliwch Ati...! ar y dudalen Cerdded Iachus.
Mae Taith y Gigfran yn daith gerdded gylchol 14 milltir o amgylch Cwm Sirhywi a Chwm Ebwy. Drwy ddringo coetiroedd ffawydd serth i ben mynydd o dir comin cewch eich gwobrwyo gan olygfeydd godidog o Aber Afon Hafren a Bannau Brycheiniog. Her undydd i gerddwyr profiadol, ond mae modd mwynhau'r daith hefyd drwy ei thorri'n rannau llai.
Mae Taith Gylchol Afon Rhymni yn daith naw milltir o hyd o amgylch ardal ganolog y cwm ar hyd Afon Rhymni, ac yn pasio drwy bentrefi Machen, Draethen a Llanfihangel-y-fedw. Ar y daith hon, cewch fwynhau tirwedd meddalach mwy graddol wrth i chi gerdded drwy ardaloedd coediog a chaeau gwyrddlas.
Mae Taith Cefnffordd Cwm Rhymni yn eich arwain am 28 milltir ar hyd cribau basin Caerffili ac yn amgylchynu Afon Rhymni. O'ch safle uchel ar hyd y cribau, gallwch fwynhau golygfa eang ar hyd rhannau helaeth o'r de-ddwyrain. Mae'r daith yn dilyn cymysgedd o draciau ar hyd cribau, coetiroedd a lonydd â pherthi.
Mae'r Daith Gerdded Glan yr Afon Rhymni yn daith gerdded 32 milltir ar hyd Cwm Rhymni, sy'n dilyn yr afon o'i rhagnant ar y gwastatir deheuol. Gan ddechrau ym Mharc Bryn Bach, mae'r daith wedi'i rhannu'n bump rhan ac yn gorffen yn Eglwys Sant Edern, Caerdydd. Mae'r daith yn dilyn cymysgedd o lwybrau troed a llwybrau beiciau, gyda rhai darnau yn rhedeg ar hyd ochr y ffordd mewn ardaloedd trefol.
Mae Taith Cwm Sirhywi yn dilyn cribyn a llawr y cwm am 26 milltir ac yn mynd drwy dair sir o Gasnewydd i Dredegar. O ben y mynydd ar ddiwrnod clir, gallwch fwynhau golygfeydd panoramig o Fôr Hafren ac i'r gogledd tuag at Fannau Brycheiniog. Yn y cwm islaw, fe ddewch chi o hyd i goetir ffawydd, lonydd â pherthi a llwybrau ar hyd yr afon. Wedi'u cuddio ymysg y rhain mae cyfoeth o weddillion amaethyddol, archeolegol a diwydiannol i'n hatgoffa ni o dreftadaeth cyfoethog cymoedd y de.
Mae Taith Cefnffordd Morgannwg yn daith gerdded 27 milltir ar hyd ffin ddeheuol Maes Glo De Cymru sy'n mynd o Barc Gwledig Margam, ym Mhort Talbot, drwy ucheldir godidog a golygfeydd o'r cwm i Gastell Caerffili. Mae'n dilyn llwybrau troed cyhoeddus, traciau coedwigoedd, tir comin a lonydd tawel ar hyd y cefnffordd.
Mae'r gyfres Dihangwch i... o deithiau cerdded yn fyrrach na'r teithiau yn ein cyfres Brasgamu Ymlaen..., a phob un rhwng pump ac wyth milltir o hyd. Os ydych chi'n chwilio am awyr iach, golygfeydd godidog ac ardaloedd gwledig heddychlon, yna ewch am dro i gefn gwlad Caerffili. Mae'r holl deithiau yma'n rhai cylchol ac wedi'u dewis gan gerddwyr lleol a staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad i ddangos y rhannau gorau o'r fwrdeistref sirol i chi.
Mae gwybodaeth am ein cyfres o deithiau cerdded byrrach, Daliwch ati..!, ar gael ar y dudalen Cerdded Iachus. Er mai teithiau cylchol 2-5 milltir o hyd sydd wedi'u hanelu at bobl sydd am wella'u ffitrwydd yn bennaf yw'r rhain, maen nhw'n dal i fod yn deithiau cerdded pleserus.
Mae Llwybr Gefail Machen yn eich harwain ar daith gylchol tair milltir o amgylch y pentref tawel a chefn gwlad. Dewch i ddysgu'r hanes cudd drwy atgofion pobl leol.
Ffurfiwyd Machen gan haearn a glo. Nid yw tawelwch y pentref heddiw yn dyst i'r gwres a'r sŵn fu yno yn y gorffennol. Dilynwch Lwybr Gefail Machen drwy bentrefi Machen a Waterloo a chefn gwlad heddychlon Cwm Rhymni. Ewch yn ôl mewn amser i ddysgu am y bobl a fu'n rhan o hanes Machen.
Cartwnydd a dychanwr am fywyd yng nghymoedd y de oedd Grenfell 'Gren' Jones. Mae Llwybr Gren yn daith gylchol tair milltir o hyd rhwng pentrefi Hengoed a Fleur-de-lis sy'n olrhain rhai o'i ddelweddau enwog, gan gynnwys y tai teras tynn, capeli, tafarndai lleol ac yn croesi dros y draphont uchel a oedd yn rhan mor annatod o'i gartwnau. Mae'n bosib y gwelwch chi ambell i gymeriad 'gwlanog' ar hyd y daith.
Mae'r daith 10 milltir yma'n ymweld â 10 nodwedd hanesyddol yng ngwm Darran; felly dyna pam y rhoddwyd yr enw Llwybr 10 arno! Yn ystod y daith byddwch yn dysgu am hen hanes y cwm o'r Oes Efydd, y Rhufeiniaid, y safleoedd amaethyddol Canoloesol a gweddillion y cyfnod Diwydiannol yng nghyfnod Ardalydd Bute. Mae'n daith gerdded go lafurus, lle bydd gofyn dringo dwy lethr er mwyn cyrraedd rhostir agored, yn ogystal â chroesi tir pori a nentydd. Tudalen 1, Tudalen 2.