Next
Stack of felled timber
08.03.2021

Ystafell gyda golygfeydd

Fel ychwanegiad hwyr i Wythnos Genedlaethol Tai Adar adeiladwyd bocs tylluan newydd ar Gors Penallta. Cafodd ei gyflenwi a'i osod gan Reginald Moore Ltd, mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Cefn Gwlad, fel lliniaru ar gyfer gwaith adeiladu yn Nelson. 

Mae'r bocs yn edrych dros laswelltir llawn blodau Cors Penallta, sy'n rhan o Barc Penallta. Y gors yw'r cynefin delfrydol i dylluan wen hela ac mae wedi'i lleoli wrth y llwybr beicio rhwng y llynnoedd pysgota a Penallta Road. Gobeithio y bydd y bocs newydd yn gartref i breswylwyr newydd yn fuan.