Next

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn rhedeg dau wersyll ym Mharc Cwm Darran a Choedwig Cwmcarn. Mae'r ddau'n cynnig cymysgedd o safleoedd ar gyfer pebyll, carafanau a chartrefi modur o wahanol feintiau. I'r rhai sy'n dymuno gwersylla mewn steil, beth am roi cynnig ar un o'r podiau glampio yng Nghoedwig Cwmcarn?

Parc Cwm Darran

Mae gwersyll bach diarffordd ym Mharc Cwm Darran, gyda 30 safle clud ym mhrydferthwch Cwm Darran. Mae'r safle hardd hwn yn agos at y Ganolfan Ymwelwyr, ac mae'n cynnig 20 safle gyda thrydan a 10 safle heb drydan. Mae'r gwersyll yn addas ar gyfer carafanau, cartrefi modur a phebyll. Mae'r gwersyll ar agor rhwng 1 Ebrill a 30 Medi, ac mae'r cyfleusterau'n cynnwys cawodydd, toiledau ac ardal gegin. Mae'r costau'n amrywio yn ôl maint y babell neu'r garafán, a ph'un a oes angen cysylltiad trydan ai peidio. Ni chaniateir aros am yn hirach na 14 noson.

Rydym yn cynnig gostyngiad i aelodau Clwb Carafanau, ac byddwn yn hapus i drafod lletya eich rali garafanau. Ffoniwch i drafod eich gofynion ac i weld a oes gennym gynigion arbennig ar gael.

Ynghyd â'n prif safle gwersylla, mae gennym gae ar wahân at ddefnydd y Sgowtiaid a grwpiau eraill fel cyfranogwyr Cynllun Gwobr Dug Caeredin. Codir ffi fesul pen i ddefnyddio'r cae hwn, a dylid archebu ymlaen llaw drwy'r Ganolfan Ymwelwyr.

Gwybodaeth Gyswllt

Y Ganolfan Ymwelwyr, Parc Cwm Darran, Deri, Bargoed, CF81 9NR

Ffôn: 01443 875557

Ebost: ParcCwmDarran@caerffili.gov.uk

Camping at Parc Cwm Darran

Coedwig Cwmcarn

Parc carafanau a gwersylla wrth droed coedwig ysblennydd Cwmcarn, gyda chyfleusterau da. Mae lle i hyd at ugain pabell neu garafán, gyda chyswllt trydan, cegin, ystafell olchi dillad, cawodydd a thoiledau a chyfleusterau gwaredu gwastraff cemegol. Mae hefyd deg pod glampio ar gael i'r rhai ohonoch chi sy'n mwynhau mymryn o foethusrwydd wrth aros dros nos.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfleusterau, costau ac archebu, ewch i wefan Coedwig Cwmcarn.

Gwybodaeth Gyswllt

Canolfan Ymwelwyr Coedwig Cwmcarn, Cwmcarn, Crosskeys. NP11 7FA

Ffôn: 01495 272001

Ebost: cwmcarn-vc@caerffili.gov.uk 

 

Dylid nodi na chaniateir gwersylla yn ein mannau gwyrdd na pharcio carafanau a chartrefi modur yn ein meysydd parcio dros nos, dim ond yn y ddau safle pwrpasol hwn.

Cynnwys a Awgrymir