Next

Mae Parc Ystrad Mynach yn gorchuddio oddeutu 11 hectar o fan gwyrdd agored sy'n cynnwys caeau rygbi a phêl-droed, cyrtiau tennis, llain fowls a maes chwarae i blant, a'r cyfan wedi'i leoli ymysg coed godidog.  Mae'r parc, sydd wedi'i leoli o flaen coetir brodorol a dolydd o flodau gwylltion, wedi cael cydnabyddiaeth am waith rheoli o safon uchel, ac wedi ennill gwobr y Faner Werdd.

Yn y parc, mae tirffurf rhewlifol anghyffredin o'r enw drymlin, a gafodd ei chreu yn ystod Oes yr Ia. Rhywbeth sydd wedi ymddangos yn fwy diweddar yn y parc yw'r Ganolfan Rhagoriaeth mewn Chwaraeon; cyfleuster modern pob tywydd sy'n addas ar gyfer pob math o chwaraeon, yn benodol rygbi a phêl-droed, gyda dau brif stand a lle i 500 o bobl wylio.  Mae caeau rygbi eraill, sy'n gartref i Glwb Rygbi Penallta, llain fowls a chyrtiau tennis. Os ydych chi'n chwilio am rywbeth gwahanol, beth am gêm o tennis bwrdd ar ein bwrdd parhaol awyr agored - yr unig beth sydd angen arnoch chi yw batiau a phêl?

Beth sydd i'w wneud a'i weld

Maes chwarae

Mae'r maes poblogaidd yma i blant yn cynnwys amrywiaeth eang o gyfarpar chwarae a'r cyfan wedi'i osod ar wyneb meddal. Mae'r maes chwarae'n gaeedig ac mae digonedd o feinciau i gael hoe neu i gadw llygaid ar eich plant. Mae'r cyfarpar arferol yma gan gynnwys siglenni, fframiau dringo a'r si-so, ond yr uchafbwynt yw'r dwmbwr dambar 4m o uchder. Mae'n rhaid i bob plentyn anturus roi cynnig arno!

Canolfan Rhagoriaeth mewn Chwaraeon

Agorwyd Canolfan Rhagoriaeth mewn Chwaraeon Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn 2014 ac mae'n ased chwaraeon pwysig iawn yn y rhanbarth. Mae cyfleusterau'r Ganolfan yn cynnwys cae rygbi 3G sy'n cyd-fynd â rheol 22 yr IRB, cae chwarae pêl-droed 3G sydd o safon 2 seren FIFA, ystafelloedd cynadledda, ystafell gryfder a chyflyru ac ystafelloedd meddygol a chymorth cyntaf. Mae tîm rhanbarthol Dreigiau Casnewydd Gwent yn ogystal ag amrywiaeth eang o dimau lleol yn defnyddio'r Ganolfan fel cyfleuster ymarfer. Gwneir defnydd da ohoni hefyd ar gyfer digwyddiadau a chystadlaethau chwaraeon.

Cynllunio eich ymweliad

Ble mae'r parc?   Mae Parc Ystrad Mynach i'r de o Ystrad Mynach, oddi ar Heol Caerffili, CF83 7EP.

Sut i gyrraedd   Mewn car - Heol Caerffili, Ystrad Mynach. Ar fws - Mae nifer o wasanaethau yn rhedeg rhwng Caerffili ac Ystrad Mynach sy'n mynd i Ysbyty Ystrad Fawr. Ar drên - Yr orsaf drenau agosaf yw Ystrad Mynach (5 munud o gerdded).

Oriau agor   Mae'r parc ar agor yn ystod oriau golau dydd drwy gydol y flwyddyn. Mae mynediad i'r parc am ddim.

Meysydd parcio   Mae'r maes parcio oddi ar Heol Caerffili yn ddelfrydol ar gyfer y maes chwarae (mae'r maes parcio ar agor yn ystod oriau golau dydd). Mae modd parcio yn y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Chwaraeon hefyd.

Pwyntiau mynediad eraill   Mae modd cael mynediad i'r parc ar droed o Orsaf Ystrad Mynach ac o strydoedd Pine Grove, Pen-y-Cae a Heol Twyn. 

Toiledau   Mae toiledau ar gael wrth y maes chwarae.

Byrddau picnic   Mae byrddau picnic wedi'u lleoli ger y maes chwarae.

Hygyrchedd   Mae Parc Ystrad Mynach yn wastad gyda llwybrau tarmac. Mae llethr bach i gyrraedd y llwybr sy'n mynd i gyfeiriad yr orsaf drenau. Does dim pwyntiau mynediad cyfyngol yn unrhyw fynediad. Mae safleoedd parcio i'r anabl ar gael yn y maes parcio. Mae'r toiledau'n cynnwys cyfleusterau anabl. Mae digonedd o feinciau wedi'u lleoli o amgylch y parc i chi gael ymlacio.

Gwybodaeth Gyswllt

Gwasanaethau Parciau, Tŷ Bargod, 1 St Gwladys Way, Bargod, CF81 8AB

Ffôn: 01443 811452 

E-bost: parciau@caerffili.gov.uk

Cynnwys a Awgrymir