Ydych chi erioed wedi eisiau bod yn Geidwad Cefn Gwlad a chael cyfle i wneud yr holl bethau diddorol mae ceidwaid yn cael gwneud bob dydd?
Ai 'ydw' oedd eich ateb? Os felly, fe allwch chi fod yn geidwad, a'r unig beth sydd angen i chi wneud i gymryd rhan yn yr hwyl yw ymuno â'r Ceidwaid Iau.
Clwb bywyd gwyllt llawn hwyl am ddim i blant rhwng 8 ac 11 oed (sy'n iau na Blwyddyn 7) yw clwb Ceidwaid Iau Caerffili. Mae Ceidwaid Iau yn cael cyfle i archwilio'r ardal wledig, i ddysgu mwy am fywyd gwyllt neu sut i adeiladu tanau yn ddiogel. Bydd cyfle i fwynhau gweithgareddau llawn hwyl, i chwarae gemau, i fod yn greadigol ac i ddysgu amrywiaeth o sgiliau ceidwaid gydag offer llaw.
Os ydych chi'n awyddus i fod yn Geidwad Iau, ac yn chwilio am hwyl, rydyn ni am glywed gennych chi. Rydyn ni'n cwrdd unwaith y mis ar brynhawn dydd Sul ym Mharc Penallta.
Llwythwch ffurflen gais i lawr... dewch i fod yn Geidwad Iau... ac ymunwch yn yr hwyl!
If you want to find out more about Junior Rangers, please contact Ben Sands
Tel: 01443 816853Email: sandsb@caerphilly.gov.uk