Ceidwaid Arddegol

Mae Ceidwaid Arddegol yn cael eu hatal ar hyn o bryd o dan rybudd pellach

Next

Clwb bywyd gwyllt gwych llawn anturiaethau i bobl ifanc rhwng 11 a 14 oed yw ein clwb Ceidwaid Ifanc. Fel aelod o'r Ceidwaid Arddegol byddwch chi'n dod i gyswllt â bywyd gwyllt, yn cael cyfle i fwynhau cefn gwlad ac yn cyflawni tasgau ymarferol er mwyn ei wneud yn lle gwell.

Mae'r grŵp yn cael defnyddio offer, yn gwneud tanau, yn mynd ar dripiau, yn cymryd rhan mewn arolygon, yn dysgu sgiliau byw yn y gwyllt, ac archwilio'r amgylchedd gyda'r nos. Mae'n gallu bod yn eithaf mwdlyd ar adegau!

Ac yn well na dim, mae am ddim! Er hynny mae llefydd yn brin, felly mae'n bosib y bydd rhestr aros.

Mae'r grŵp yn cwrdd bob mis ar brynhawn dydd Sul ac yn defnyddio'r Ganolfan Addysg yng Nglaswelltiroedd Aberbargoed fel man cwrdd.

Llwythwch ffurflen gais Ceidwaid Arddegol i lawr a gallwch chi fod yn ymuno yn yr hwyl mewn dim o dro.

teenrangers-5b0fd06b8f2a0.jpg

Gwybodaeth Gyswllt

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Andy Wilkinson, Uwch Geidwad Addysg Amgylcheddol

Tel: 01443 815546

E-bost: wilkia@caerffili.gov.uk

Cynnwys a Awgrymir