Enwyd y gofod gwyrdd anarferol hwn, sydd wedi'i leoli rhwng Pontllan-fraith a'r Coed-duon, er anrhydedd i Syr Harold Finch a wasanaethodd etholaeth Bedwellte fel Aelod Seneddol rhwng 1950 a 1970. Mae'r parc, a fu unwaith yn rhan o Fferm Penllwyn, wedi cadw rhywfaint o'r cynefinoedd bywyd gwyllt pwysig o'i hanes amaethyddol. Yn wir, mae'n teimlo fel petaech chi'n cerdded drwy ffermdir wrth i'r gweiriau hir siglo yn y dolydd yn ystod yr haf. Mae ardal chwarae boblogaidd iawn i blant yna hefyd.
Gyda chymysgedd o laswelltiroedd, perthi, pwll ac ardal wlyptir yn agos i Afon Sirhywi, mae Parc Coffa Syr Harold Finch yn berl o fywyd gwyllt. Mae 75% o'r parc 4.5 hectar hwn wedi'i ddynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Leol y Dolydd Coffa, i gydnabod pa mor werthfawr yw ei fywyd gwyllt. Yn hen ddôl wellt a reolwyd mewn dull traddodiadol, mae rhywogaethau prin a nodedig o blanhigion yn dal i'w cael yno, fel bwrned mawr, mantell fair a chanwraidd. Ar hyn o bryd caiff ei rheoli yn yr un ffordd a fu, gyda gwartheg yn pori yn yr haf a'r gwair yn cael ei dorri gan beri i fywyd blodau a phlanhigion y safle fod mor gyfoethog.
Maes chwarae traddodiadol gyda llithren, siglenni a ffrâm ddringo mewn ardal amgaeëdig.
Ble mae'r parc? Mae Parc Syr Harold oddi ar Heol y Coed-duon, Pontllan-fraith, NP12 2XB.
Sut i gyrraedd Mewn car - B4251 (Heol y Coed-duon). Ar fws - Mae sawl gwasanaeth yn rhedeg rhwng Pontllan-fraith a'r Coed-duon.
Oriau agor Mae'r parc ar agor drwy'r flwyddyn. Mae mynediad i'r parc am ddim.
Meysydd parcio Mae'r maes parcio wedi'i leoli oddi ar y B4251 (Heol y Coed-duon). Gweithredir system Talu ac Arddangos yn y maes parcio hwn.
Pwyntiau mynediad eraill Mae mynediad blaen agored ar Heol y Coed-duon, a gellir cael mynediad o'r llwybr sy'n rhedeg ar hyd glan Afon Sirhywi.
Toiledau Does dim toiledau ar gael ar y safle.
Hygyrchedd Mae llefydd parcio anabl penodedig ar gael yn y maes parcio. Mae'r parc ar lethr ysgafn i lawr o Heol y Coed-duon tuag at Afon Sirhywi, felly mae'r prif lwybrau, sydd ag arwyneb tarmac, hefyd yn dilyn y gogwydd hwn. Mae llwybrau anffurfiol eraill yn dilyn ochr y coetiroedd o gwmpas y dolydd. Nid oes pwyntiau rheoli mynediad cyfyngol wrth y mynedfeydd. Fodd bynnag, nid oes llawer o feinciau na llefydd eraill i orffwyso yn y parc.
Gwasanaethau Parciau, Tŷ Bargod, 1 St Gwladys Way, Bargod, CF81 8AB
Ffôn: 01443 811452
E-bost: parciau@caerffili.gov.uk