Os ydych chi'n chwilio am le i gael picnic neu i gicio pêl, llecyn braf i eistedd, coed i ymlwybro drwyddynt, glan afon i fentro lawr iddi, gofod i hedfan barcud neu lwybrau diogel i feicio ar eu hyd, does dim lle gwell na pharciau gwledig bwrdeistref sirol Caerffili.
Ni allai fod yn haws i ymweld â'n parciau gwledig – rydyn ni ar agor drwy'r flwyddyn ac mae'r cyfan yn rhad ac am ddim. Maen nhw'n wych i gael ymweld â'r coed, y dolydd, gwlyptiroedd, ac mae golygfeydd syfrdanol, amffitheatr a gweithiau celf annisgwyl i'w canfod. Mae ceffyl anferthol i'w ganfod hyd yn oed!
Mae ein parciau'n amrywiol, ac mae pob un yn cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol, o nodweddion sy'n ein hatgoffa o amseroedd a fu ym Mhwll Pen-y-Fan, i ofodau gwyrdd cymunedol newydd a bywiog fel Parc Coetir Bargoed. Bydd defnyddwyr a cherddwyr cŵn rheolaidd yn gwerthfawrogi'r rhwydwaith fawr o lwybrau yn ein parciau gwledig eang, sy'n cynnig amrywiaeth bob tro y byddwch chi'n ymweld. Rydyn ni'n croesawu cŵn a'u perchnogion cyfrifol, ond dylech gadw'ch ci dan reolaeth, yn enwedig os oes pobl eraill neu anifeiliaid fferm yn bresennol. Cofiwch godi baw eich ci.
Mae tirlun ein mannau gwyrdd yn amrywio, o wastadrwydd Parc Glan-yr-afon i lethrau serth y parciau sy'n dringo ochrau'r cwm. Yma, fel ym Mharc Penallta, cewch olygfeydd anhygoel ar ddiwrnod clir. Mae arwyneb caled gan lawer o'r llwybrau yn y parciau ac maent mewn cyflwr da, felly mae gwthio pram neu archwilio i'r llai abl yn hawdd, ond mae'n bosib bod llwybrau a thraciau eraill yn fwy heriol. Mae llawer o'r llwybrau yn rhai aml-ddefnydd, lle mae modd cerdded, beicio a marchogaeth arnynt, fel ym Mharc Gwledig Cwm Sirhywi, felly parchwch ddefnyddwyr eraill os gwelwch yn dda. Os ydych chi'n gobeithio ehangu eich ymweliad i fwy na diwrnod, beth am fanteisio ar wersylla ym Mharc Cwm Darran.
Os ydych chi'n hoff o natur, mae ein parciau'n gyfoeth o fywyd gwyllt ac yn gartref i ystod eang o adar, planhigion a phryfaid. Mae Safleoedd Bywyd Gwyllt arbennig i'w cael yn amryw o'n parciau gwledig. Gallwch fod yn lwcus o weld rhai o'r rhywogaethau mwy prin fel yr ehedydd, y gornchwiglen, tegeirian, glöynnod byw a gwas y neidr. I gael y siawns orau o weld ein bywyd gwyllt, y cyfnodau tawelaf fyddai'r gorau. Cofiwch roi gwybod i ni os welwch chi rywbeth diddorol.
Mae digon i'ch cadw'n brysur ar draws ein safleoedd, ond maen nhw hefyd yn fannau cychwyn da i archwilio cefn gwlad yn ehangach. Mae sawl llwybr y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a llwybrau beicio eraill yn mynd drwy'r parciau, felly mae'n ddiogel i deuluoedd feicio yno. I'r cerddwyr, mae llawer o'n llwybrau hirach yn dechrau ym meysydd parcio ein parciau gwledig. Ewch i'n tudalen Gerdded i gael rhagor o wybodaeth.
Nid llefydd i hamddena ac i fwynau yn anffurfiol yn unig yw ein parciau gwledig, maen nhw hefyd yn llefydd i ddysgu. Siaradwch â'n ceidwaid cyfeillgar a gwybodus, a gallant roi cyngor i chi ar beth i'w weld a'i wneud. Rydyn ni'n cynnig Gwasanaeth Addysg i ysgolion a grwpiau, ynghyd â chynnal clybiau Ceidwaid Iau a Cheidwaid Ifanc. Ewch i'n adran ar Ddysgu i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwn ei gynnig.
P'un a ydych eisiau tynnu lluniau o glychau'r gog, gweld y gweithiau celf neu gymryd rhan yn un o'n digwyddiadau a gweithgareddau niferus rydyn ni'n eu cynnal drwy'r flwyddyn, mae llawer iawn i'w wneud. Mae'r cyfan yna! Ewch i'w ddarganfod!