Next

Beth sy'n arbennig amdanyn nhw?

Mae'r hen ddolydd gwellt hyn yn rai o'r enghreifftiau prin sydd ar ôl o laswelltiroedd sy'n gyfoeth o rywogaethau yng Nghwm Sirhywi. Mae glaswelltiroedd fel y rhain yn mynd yn fwy a mwy prin ar draws Cymru gyfan. Mae gwaith rheoli gofalus yn y Warchodfa Natur Leol hon wedi caniatáu i'r blodau gwylltion flodeuo, ac yn eu tro mae'r rhain yn darparu bwyd i bryfaid, adar a mamaliaid.

Beth sydd yno?

Mae dwy ddôl haf fawr gynnes ar lannau Afon Sirhywi. Mae'n lleoliad delfrydol i löynnod byw a gwyfynod sy'n bwyta'r blodau gwylltion helaeth. Mae'n gartref i wyfynod pytiau'r gors a brithegion perlod bach, sy'n brin yn yr ardal. Yn y gwanwyn, mae'r pwll bach yn ferw o amffibiaid serchus. Mae crehyrod glas yn dod i'r golwg i fwydo ar frogaod hefyd. Gyda'r nos, mae ystlumod y dŵr ac ystlumod mawr yn gwibio dros y ddôl.

Gyda'r dydd, mae gleision y dorlan a bronwennod y dŵr yn mudo i fyny ac i lawr yr afon yn casglu bwyd i'w rhai bach. Os fyddwch chi'n lwcus, gallwch gael cip ar ddyfrgi ar Afon Sirhywi. Ar ddau ben i'r ddôl, lle mae coetir yn gorchuddio'r glaswelltir, mae carpedi ysblennydd o glychau'r gog o dan y coed derw sy'n datblygu.

Cynllunio eich ymweliad

Ble mae'r dolydd?   Mae Dolydd y Tir Gwastad wedi'u lleoli ym Mharc Gwledig Cwm Sirhywi.

Cyfeirnod Grid   ST 207912

Sut i gyrraedd   Mae manylion ynghylch sut i gyrraedd yno ar gael ar brif dudalen Parc Gwledig Cwm Sirhywi.

Gwybodaeth Gyswllt

Y Ganolfan Addysg, Parc Penallta, Heol Penallta, Ystrad Mynach, Hengoed. CF82 7GL.

Ffôn: 01443 816853

E-bost: cefngwlad@caerffili.gov.uk

Cynnwys a Awgrymir