Next

Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol ac atgyweirio lloriau yn y Ganolfan Ymwelwyr ym Mharc Cwm Darran, Deri, bydd y Ganolfan Ymwelwyr, y caffi a'r toiledau ar gau i'r cyhoedd o 28 Chwefror am gyfnod o bythefnos.

Bydd gweddill y Parc Gwledig ar agor fel arfer er mwyn i bobl fwynhau arwyddion cyntaf y gwanwyn.

Parc gwledig heddychlon a thrawiadol sydd wedi'i guddio yng Nghwm Darran, ac  sydd wedi ennill gwobr y Faner Werdd, yw Parc Cwm Darran. Mae prydferthwch y parc yn celu ei hanes fel safle hen Lofa Ogilvie. Er bod rhan fwyaf o olion yr hen lofa wedi diflannu erbyn hyn, mae rhai nodweddion yn dal i fodoli y gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw. Mae ein canolfan ymwelwyr, sydd ag arddangosfeydd rhyngweithiol, yn fan cychwyn gwych ac mae'n cynnwys llu o wybodaeth i'ch helpu chi i wneud y mwyaf o'ch ymweliad. Mae Llyn Ogilvie wedi'i leoli yng ngwaelod y cwm gyda llwybr hygyrch yn rhedeg o'i amgylch, neu gallwch fynd am dro drwy'r coetiroedd cysgodol sydd ar hyd llethrau'r cwm.

Yng Ngwarchodfa Natur Leol Dolydd Cwmllwydrew, gallwch fwynhau dolydd o flodau gwylltion, Amffitheatr y Baedd Gwyllt neu bysgota yn y llyn. Beth am aros dros nos yn ein gwersyllfa bwrpasol? Rydyn ni'n darparu ar gyfer beicwyr hefyd gyda'n tri llwybr cyclo-cross. Gallwch gadw'r plant ieuengaf yn brysur yn ein maes chwarae neu'r cwrs antur "Gemau Olympaidd Ogilvie".

Ar ôl yr holl ymarfer corff, beth am gymryd hoe yn Siop Goffi Glan-yr-afon gyda phaned a chacennau cartref, neu eisteddwch wrth ein byrddau picnic neu'r ardaloedd glaswelltog i fwynhau'r olygfa.  Parc Cwm Darran sydd â'r ystod lawnaf o gyfleusterau o blith ein holl barciau gwledig o bosib, mae'n lle delfrydol ar gyfer y teulu cyfan.

Ampitheatre

Beth sydd i'w wneud a'i weld

Y Ganolfan Ymwelwyr

Dyma'r lle delfrydol i ddechrau a gorffen eich ymweliad â Pharc Cwm Darran. Galwch heibio wrth i chi gyrraedd i gasglu taflenni, i gymryd rhan yn ein harddangosfeydd rhyngweithiol neu i gael cyngor gwych ar sut i wneud y mwyaf o'ch ymweliad. Yna, pan fyddwch chi'n dechrau blino ar ôl bod yn crwydro, galwch heibio yn ôl i gael paned haeddiannol ac i ddarganfod yr holl bethau sydd gennych ar ôl i'w gweld - yn barod ar gyfer eich ymweliad nesaf!

Amffitheatr y Baedd Gwyllt

Diolch byth, nid baedd gwyllt go iawn sydd allan yna, ond cerflun cloddwaith 35 metr o hyd sydd â 250 o seddi a lle i gynnal perfformiadau awyr agored. Mae'r amffitheatr, a ddyluniwyd gan yr artist Mick Petts, yn dathlu un o'r llengoedd Rhufeinig oedd yn meddiannu'r cwm ar un adeg ac yn hela baeddod gwyllt yn y coetir derw cyfagos. Ewch i weld ei ddannedd miniog, neu ymunwch â ni ar gyfer un o'n perfformiadau sy'n defnyddio'r ardal unigryw yma.

Bywyd Gwyllt

Fel llawer o hen safleoedd diwydiannol, mae cyfoeth o fywyd gwyllt i'w gael ar safle Parc Cwm Darran gyda'i gymysgedd o laswelltir, coetir a'r llyn. Mae Gwarchodfa Natur Leol Dolydd Cwmllwydrew yn un enghraifft fach o'r hanes amaethyddol oedd yn arfer bodoli ar Fferm Cwmllwydrew cyn iddi gael ei dymchwel. Mae rhagor o wybodaeth am hyn a gwarchodfeydd natur eraill ar gael ar y dudalen safleoedd bywyd gwyllt.

Teithiau a Llwybrau Cerdded

Mae'r ddau lwybr cerdded sydd ag arwyddion yn ffordd dda o gychwyn dod i adnabod y parc. Mae Llwybr Sain sy'n sôn am hanes Parc Cwm Darran hefyd ar gael. Mae'r tair taith yn cychwyn o'r prif faes parcio ger y Ganolfan Ymwelwyr:

  • Taith Gerdded Iachus (1 cilomedr) - Taith gerdded hawdd o amgylch Llyn Ogilvie ar lwybrau tarmac cymharol wastad
  • Taith Gerdded y Coetir (2.5 cilomedr) - Mae Taith Gerdded y Coetir yn eich arwain drwy'r coetir cyfagos ac i lawr heibio i'r rhaeadr a'r Ardd Goffa.
  • Y Daith Sain (2.5 cilomedr) - Taith gyda sain sy'n olrhain trawsnewidiad y safle o bwll glo i gefn gwlad.

Mae gennym ni hefyd dri llwybr seiclocrós ar gyfer pobl sy'n ymddiddori mewn seiclocrós a beicio mynydd.

Fel ein holl barciau, mae Parc Cwm Darran yn fan cychwyn da os ydych chi am fynd i grwydro ymhellach. Mae ganddoch chi ddewis o'r daith 8 milltir Dihangwch i... Gwm Darran, neu'r daith ychydig yn hirach sef taith 10 milltir Cwm Darran ar gyfer cerddwyr, neu Llwybr Beiciau Cwm Darran (llwybr R469 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol) ar gyfer cerddwyr a beicwyr.

Ac yna...

Ewch i weld y storfa bowdr siâp rhyfedd ble roedd ffrwydron y pwll glo yn arfer cael eu cadw'n ddiogel. Gallwch groesi ein pont droed bren unigryw Gradd II sy'n cysylltu Stryd Bailey a Theras Bryste dros yr hen linell rheilffordd yn Arhosfa Ogilvie. Neu beth am fwynhau y gweithiau celf eraill neu gystadlu yng "Ngemau Olympaidd Ogilvie"?

Cynllunio eich ymweliad

Ble mae'r parc?   Mae Parc Cwm Darran yng Ngwm Darran, yn agos i bentref Deri. CF81 9NR

Sut i gyrraedd   Mewn car - Dilynwch yr arwyddion brown i dwristiaid o'r A469 ym Margoed neu Bontlotyn. Mae'r brif fynedfa wedi'i lleoli i'r gogledd o bentref Deri. Ar fws - Gwasanaeth bws 1 o Fargoed i Ferthyr. Ar feic - Mae llwybr R469 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhedeg drwy'r parc.  Ar drên - Yr orsaf drenau agosaf yw Bargoed.

Oriau agor   Mae'r parc ar agor drwy'r dydd. Mae mynediad i'r parc am ddim.

Meysydd parcio   Mae'r prif faes parcio a'r meysydd parcio ychwanegol wedi'u lleoli drws nesaf i'r Ganolfan Ymwelwyr. Mae modd cyrraedd maes parcio'r Pysgotwr ar ben deheuol Llyn Ogilvie ar hyd stryd Teras Bargoed yn Deri. 

Pwyntiau mynediad eraill   Mae llwybr R469 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn cyrraedd y parc ar y pen gogleddol a'r pen deheuol. Mae pwyntiau mynediad eraill ar gael ym mhentref Deri yn strydoedd Teras Bargoed a Theras Bryste.

Canolfan Ymwelwyr    Ar agor bob dydd rhwng penwythnos Gŵyl Banc y Pasg a phenwythnos olaf mis Medi. Oriau agor y ganolfan yw rhwng 10:00 a 17:00 bob dydd (neu 18:00 yn ystod gwyliau haf ysgolion).

Caffi   Mae caffi Glan-yr-afon ar agor bob dydd rhwng 10:00 a 16:30 (17:30 yn ystod gwyliau haf ysgolion) rhwng penwythnos Gŵyl Banc y Pasg a phenwythnos olaf mis Medi. 

Gwersyllfa   Mae rhagor o wybodaeth am argaeledd y wersyllfa ar gael ar ein tudalen Gwersyllfeydd.

Toiledau   Mae toiledau ar gael yn y Ganolfan Ymwelwyr ac mae oriau agor y toiledau yr un peth â'r Ganolfan. Mae toiled compost ecogyfeillgar wedi'i leoli islaw'r amffitheatr. Mae'r toiled ar agor bob dydd rhwng 8:00 a 16:00 (gaeaf) a 17:00 (haf).

Byrddau picnic   Mae'r byrddau picnic wedi'u lleoli tu allan i'r Ganolfan Ymwelwyr, ger maes parcio'r Pysgotwr, ger yr Ardd Goffa a lleoliadau eraill o amgylch y llyn.

Hygyrchedd    Mae lleoliadau parcio anabl dynodedig ar gael yn y prif faes parcio a maes parcio'r Pysgotwr. Yn y Ganolfan Ymwelwyr mae toiledau sydd wedi'u haddasu a lifft. Mae'n bosib y byddai'n well gan ymwelwyr sy'n ei chael hi'n anodd symud barcio yn y maes parcio ychwanegol a dod mewn i'r Ganolfan Ymwelwyr drwy'r fynedfa uchel. Tarmac yw'r prif lwybr o amgylch y llyn, sy'n gymharol wastad gydag ychydig o lethr i gyrraedd a gadael y Ganolfan Ymwelwyr. Mae'r llwybrau beicio hefyd wedi'u gorchuddio â tharmac ond mae llwybrau eraill yn gyfuniad o lwch cerrig a gorchudd naturiol. Mae pwyntiau rheoli mynediad ar hyd y llwybr beiciau sy'n gyfeillgar i sgwteri symudedd ac mae digon o feinciau ar gael i chi orffwyso.

Gwybodaeth Gyswllt

Y Ganolfan Ymwelwyr, Parc Cwm Darran, Deri, Bargoed, CF81 9NR

Ffôn: 01443 875557

E-bost: ParcCwmDarran@caerffili.gov.uk

Cynnwys a Awgrymir