Er mai dyma un o'r lleiaf ymhlith ein mannau gwyrdd, mae Parc Glan-yr-afon yn dal i fod yn lle gwych i ymweld ag ef, ac mae'r bobl leol yn ei ddefnyddio'n aml. Gyda llwybrau ag arwynebau gwastad sy'n addas ym mhob tywydd, gallwch fynd am dro ar hyd glan yr afon gyda gwenoliaid yr haf yn gwmni, neu fwynhau'r dolydd blodeuog sy'n fyw â phryfaid. Mae'r werddon hon o gaeau bach a pherthi, gweddillion tirlun a fu unwaith yn dir ffermio, yn cynnig heddwch a llonyddwch i ffwrdd o'r byd prysur cyfagos. Mae Parc Glan-yr-Afon wedi'i leoli ar Taith Gerdded Glan-yr-afon Rhymni a Llwybr Celtaidd (Llwybr 4) y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, felly mae'n lle gwych i gymryd hoe os ydych chi'n gwneud y llwybrau hirach hyn.
Cewch wybod beth sy’n digwydd ym Mharc Glan-yr-afon drwy lawrlwytho ein cylchlythyr rheoliad, Crwydro Glan-yr-afon.
Mae Parc Glan-yr-Afon yn lle gwych i gael picnic traddodiadol, os ydych chi eisiau eistedd ar ochr yr afon a gwylio'r dŵr yn llifo heibio, neu eistedd yn y dolydd gyda sïo'r gwenyn o'ch cwmpas. Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad Picnic yn y Parc blynyddol a gynhelir ddechrau fis Medi gan amlaf.
Gyda glan afon tua milltir o hyd, mae Parc Glan-yr-afon yn rhan bwysig o daith gerdded 32 milltir Taith Gerdded Glan-yr-afon Rhymni, wrth iddo ddilyn yr Afon Rhymni o'i blaenddwr i'w wastatir deheuol. Mae'r parc yn addas i'w archwilio ar y Llwybr Celtaidd (Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol) hefyd.
Ble mae'r parc? Mae Parc Glan-yr-afon i'r de o'r A468 rhwng cymunedau Bedwas a Thretomas. CF83 8DR
Sut i gyrraedd Mewn car - ar hyd ffordd Ystâd Ddiwydiannol Pantglas, oddi ar yr A468. Ar fws - Gwasanaethau A a H Caerffili i Graigyrhaca. Ar feic - Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Ar drên - Yr orsaf drenau agosaf yw Caerffili (40 munud o gerdded)
Oriau agor Mae'r parc ar agor drwy'r flwyddyn. Mae mynediad i'r parc am ddim.
Meysydd parcio Mae maes parcio bach oddi ar ffordd Ystad Ddiwydiannol Pantglas.
Toiledau Does dim toiledau ar y safle.
Hygyrchedd Mae'r safle yn wastad ac mae ganddo lwybrau ag arwyneb tarmac a llwch cerrig ar hyd yr ochrau. Gwair wedi'i dorri yw llwybrau'r caeau, a gallant fynd yn fwdlyd pan mae'n wlyb. Mae rhwystrau gan rhai o'r pwyntiau mynediad, ond dylai pob un fod yn addas ar gyfer sgwteri symudedd. Mae digon o feinciau er mwyn gorffwyso hefyd.
Y Ganolfan Addysg, Parc Penallta, Heol Penallta, Ystrad Mynach, Hengoed. CF82 7GL.
Ffôn: 01443 816853
E-bost: cefngwlad@caerffili.gov.uk