Mae Parc y Wern, Nelson yn llwyddo i gyfuno cyfleusterau parc gwledig a pharc trefol mewn man gwyrdd cyhoeddus unigryw a hynod.
Yn wreiddiol, roedd y parc yn rhan o chwarel gerrig gyda chilffyrdd rheilffordd, ond dechreuwyd gwaith yn 2000 i ddatblygu parc newydd ar gyfer trigolion Nelson. Bellach, mae'r parc yn cynnig rhywbeth i bobl o bob oed ers i'r man gwyrdd hwn ddod yn ased sefydledig i'r gymuned leol.
I'r plant iau, mae maes chwarae deniadol i blant sydd wedi cael ei ddylunio'n dda, gyda'r amffitheatr yn edrych i lawr arno. Mae'r amffitheatr yn lle delfrydol i'r rhieni a'r gwarcheidwaid i eistedd a sgwrsio a chadw llygad ar eu plant yn chwarae. Mae modd i'r plant hŷn losgi ychydig o'u hegni ar y trac BMX a'r rampiau sglefrio, tra bod y mannau cyfarfod ieuenctid yn denu pobl ifanc o'r gymuned leol. Yn olaf, mae yma gae pêl-droed, sef cartref tîm Nelson, y Cavaliers.
Mae Parc y Wern yn cael ei reoli mewn modd sy'n gofalu am fyd natur. Mae'r coetiroedd wedi cael eu dynodi'n Safle o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur ac maen nhw'n llawn bywyd gwyllt. Wrth i chi ymlwybro drwy'r dolydd o flodau gwylltion neu groesi'r llwybr pren drwy'r coetiroedd gwlyb, gallwch ddefnyddio ein byrddau gwybodaeth i'ch helpu i adnabod rhai o'r planhigion tegeirian, gwas y neidr, glöynnod byw ac adar y dewch chi ar eu traws.
Ble mae'r parc? Mae Parc y Wern wedi'i leoli ar ochr ddwyreiniol Nelson.
Sut i gyrraedd Mewn car - B4255 (Heol Caerffili) yn Nelson. Ar fws - Mae llawer o wasanaethau yn mynd i Nelson. Ar feic - Mae llwybr R47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhedeg gyferbyn â rhan isaf y parc. Ar drên - Yr orsaf drenau agosaf yw Ystrad Mynach (40 munud o gerdded).
Oriau agor Mae'r parc ar agor drwy gydol y flwyddyn. Mae mynediad i'r parc am ddim.
Meysydd parcio Mae'r prif faes parcio wedi'i leoli oddi ar y B4255 (Heol Caerffili).
Pwyntiau mynediad eraill Mae modd cael mynediad i'r parc ar droed neu ar feic oddi ar lwybr R47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol rhwng Nelson ac Ystrad Mynach. Mae modd cael mynediad i'r parc oddi ar Cilgant y Wern.
Toiledau Nid oes toiledau ar gael.
Byrddau picnic Mae byrddau picnic wedi'u lleoli ger y maes chwarae.
Hygyrchedd Does dim rhwystrau wedi'u gosod ar brif fynedfa'r maes parcio, ond mae pwyntiau rheoli mynediad wedi'u gosod ar ddau fynediad oddi ar Cilgant y Wern a all achosi problemau i sgwteri symudedd mwy o faint. Mae man parcio anabl ar gael yn y prif faes parcio. Tarmac yw'r prif lwybrau drwy'r parc ac mae'r llwybrau eraill wedi'u gwneud o lwch cerrig, tir naturiol a llwybrau
Gwasanaethau Parciau, Tŷ Bargod, 1 St Gwladys Way, Bargod, CF81 8AB
Ffôn: 01443 811452
E-bost: parciau@caerffili.gov.uk