Next

Pam eu bod yn arbennig

Arferai'r dolydd fod yn rhan o Fferm Penllwyn. Mae'r fferm, gan gynnwys y gwrychoedd sydd wedi'u plygu, y dolydd gwlyb a'r blodau gwylltion, bellach yn ffurfio rhan o gynefin bywyd gwyllt pwysig mewn ardal drefol fawr. Mae'r dolydd wedi'u neilltuo'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig hefyd oherwydd yr amrywiaeth eang o blanhigion sy'n bresennol ynddyn nhw.

Memorial Park Meadows

Beth sydd yno?

Yn Nolydd y Parc Coffa mae pedwar gweirglodd a phwll mawr. Mae'r ardal yn cael ei rheoli er mwyn cynnal yr amrywiaeth o flodau gwylltion, sy'n cynnwys mantell Fair, llysiau'r neidr a'r llysyrlys. Mae llu o adar bach yn dod i'r dolydd i fwydo drwy gydol y flwyddyn; mae ji-bincod, nico a thitw cynffon-hir yn gyffredin yma. Mae adar pinc y mynydd, coch dan-aden a'r socan eira yn ymwelwyr cyson â'r dolydd yn y gaeaf.

Mae'r pwll yn safle bridio pwysig ar gyfer brogaod, llyffantod a madfallod y dŵr. Heb anghofio'r sioe awyr gan was y neidr yn ystod yr haf. Allwch chi weld y crwban sy'n byw yn y pwll? Ymwelydd di-groeso a gyrhaeddodd rai blynyddoedd yn ôl!

Cynllunio eich ymweliad

Ble mae'r dolydd?   Mae Dolydd y Parc Coffa yn rhan o Barc Syr Harold Finch.

Cyfeirnod Grid   ST 177963

Sut i gyrraedd   Mae manylion am sut i gyrraedd y safle ar gael ar dudalen Parc Syr Harold Finch.

Gwybodaeth Gyswllt

Gwasanaethau Parciau, Tŷ Bargod, 1 St Gwladys Way, Bargod, CF81 8AB

Ffôn: 01443 811452 

E-bost: parciau@caerffili.gov.uk

Cynnwys a Awgrymir