Next

Beth sy'n arbennig amdano

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Glaswelltiroedd Aberbargoed yw perl bioamrywiaeth byd natur y sir. Mae'n ardal gadwraeth bwysig yn genedlaethol, ac yn gartref i boblogaeth fawr o frithegion y gors, ynghyd â glaswellt y gweunydd a phorfeydd brwynaidd y mae'r glöynnod byw hyn yn dibynnu arnynt. Y glaswelltiroedd hyn oedd Gwarchodfa Natur Genedlaethol gyntaf Cymru i gael ei gosod mewn ardal drefol, a'r gyntaf yn y Cymoedd canolog a dwyreiniol. Nid yn unig hynny, dynodwyd nhw'n Ardal Cadwraeth Arbennig o dan Gyfarwyddeb Cynefinodd y Comisiwn Ewropeaidd, gan amlygu eu pwysigrwydd mewn cyd-destun Ewropeaidd.

ag-mfb.jpg

Hen dir fferm yw'r warchodfa hon, sydd heb ei ddraenio na'i reoli'n ddwys erioed. Mae'r gymysgedd o ardaloedd gwlyb a sych, hen wrychoedd, prysg, coed a hen ddolydd yn llawn bywyd gwyllt, gan gynnwys gweiriau a blodau prin, ffyngau, pryfaid, amffibiaid, mamaliaid ac ymlusgiaid. Mae'r warchodfa'n gartref, neu'n leoliad gwyliau, i adar helaeth.

Mae'r boblogaeth bwysig o löynnod brithegion y gors i'w gweld yn arnofio ar draws y dolydd ar ddiwrnodau braf ar ddiwedd mis Mai ac ym mis Mehefin. Er, yn ddi os, mai'r glöynnod byw yw sêr y sioe, mae gan y warchodfa lawer i'w gynnig beth bynnag fo'r tywydd a pha bynnag adeg o'r flwyddyn yw hi.

Beth sydd yno?

Yn yr haf, mae llwydfronnau a gwenoliaid yn cyrraedd o Affrica i fwydo a magu teulu ochr yn ochr â brithegion y gors, ac mae'r glaswelltiroedd wedi'u gorchuddio â thegeirian brych y rhos. Yn yr hydref, mae'r gwrychoedd yn goferu o ddraen duon a mwyar duon. Mae blodau gleision planhigyn tamaid y cythraul yn frith ar hyd y gweiriau brown hydrefol. Dyma blanhigyn bwyd brithegion y gors, a dyma un o'r rhesymau maen nhw wrth eu boddau'n byw yng Nglaswelltiroedd Aberbargoed.

Yn ystod misoedd oer a gwlyb y gaeaf, mae lindys brithegion y gors yn swatio'n ddwfn mewn clystyrau o laswellt y gweunydd, wrth i gochion yr adain a socanod eira gyrraedd o Rwsia i fwyta'r aeron o'r gwrychoedd sy'n dechrau darfod. Mae eira'r gaeaf yn datgelu olion llwynogod, cwningod, gwencïod a llygod y dŵr wrth iddyn nhw groesi'r warchodfa yn chwilio am fwyd.

Mae'r gwanwyn yn deffro'r pyllau wrth i rifft brogaod achosi i'r dŵr ferwi a byrlymu, cyn gostegu'n sydyn wrth i grëyr glas gyrraedd. Mae'r gwanwyn hefyd yn dod â gwair newydd i'r fuches fach o wartheg sy'n cnoi ac yn rheoli'r glaswelltir ar ein rhan. Mae'r gwartheg yn helpu i'w gadw i edrych yn anhygoel ac fel Serengeti De Cymru.

Mae Canolfan Addysg fach gennym hefyd i ysgolion a grwpiau sy'n ymweld â ni ei defnyddio.

Mae'n werth ymweld â hi drwy gydol y flwyddyn.

Cynllunio eich ymweliad

Ble mae'r warchodfa?   Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Glaswelltiroedd Aberbargoed ar ochr ddwyreiniol Aberbargoed. NP12 0BD

Cyfeirnod Grid   ST163995

Sut i gyrraedd   Mewn car - Mae maes parcio bach y warchodfa oddi ar Heol y Bedw-hirion, neu fel arall gallwch barcio ar hyd Heol Tir-y-Lan. Ar fws - Gwasanaethau 12 - Tredegar Newydd i Fargoed, 27 - Y Coed-duon i Fargoed, disgynnwch wrth Stryd Commercial, Aberbargoed. Ar drên - Yr orsaf drenau agosaf yw Bargoed (20 munud o gerdded).

Gwybodaeth Gyswllt

Y Ganolfan Ymwelwyr, Parc Cwm Darran, Deri, Bargoed, CF81 9NR

Ffôn: 01443 875557

E-bost: ParcCwmDarran@caerffili.gov.uk

Cynnwys a Awgrymir