Next

Ystafell ddosbarth neu'r awyr agored?

Does dim lle gwell na mwy cyffrous i ddarganfod a dysgu nag yn ein cefn gwlad lleol. Mae ein mannau gwyrdd yn gyfleuster gwych ar gyfer ymweliad eich ysgol, gan gynnig profiad byd natur ymarferol i'r plant. Mae croeso i'ch ysgol wneud rhywbeth ei hun, neu beth am fanteisio ar wybodaeth a phrofiad ein Gwasanaeth Ceidwaid, a sut allwn ni eich helpu chi i ddarparu'r Cwricwlwm Cenedlaethol mewn ffordd gyffrous a deinamig?

A boy with muddy hands enjoys a hands-on educational visit

Ymweliadau ysgol am ddim!

Dydyn ni ddim yn codi tâl am ein rhaglen ymweliadau ysgol ar ysgolion o fwrdeistref sirol Caerffili. Ie - am ddim i bawb! Ond dydy hynny ddim i ddweud na fydd yn brofiad gwerthfawr. Bydd ymweliad eich ysgol wedi'i deilwra a'i strwythuro i ateb eich gofynion a'ch galluogi chi i wneud y mwyaf o'ch ymweliad. Byddwn ni'n trafod ac yn cytuno ar raglen gyda chi cyn i chi gyrraedd. Mae rhai themâu gennym ni eisoes sydd wedi'u defnyddio o'r blaen a all eich helpu chi i gael syniad o'r hyn allwn ni ei gynnig, ond rydyn ni'n hapus i drafod syniadau a themâu eraill.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Trochi yn y pwll
  • Saffari Pryfaid
  • Darganfod Planhigion
  • Gweithgareddau Ysgolion Coedwigoedd (creu lloches, tân, defnyddio teclynnau ac ati)
  • Cyfeiriadu
  • Darganfod y coetir
  • Datrys problemau a meithrin tîm
  • Celfyddydau Amgylcheddol

Cymrwch gip ar ein pecyn Gwenwyn Gwych!; arolwg bywyd gwyllt llawn gweithgareddau sy'n hawdd ei ddefnyddio ar gyfer athrawon Cyfnod Allweddol 2, wedi'i seilio ar wenyn.

Mae gan dri o'n parciau - Parc Cwm Darran, Parc Penallta a Glaswelltiroedd Aberbargoed - ganolfannau addysg bach sydd ar gael i grwpiau sy'n ymweld eu defnyddio, sy'n fanteisiol pan nad yw'r tywydd ar ei orau. Mae ystod o offer arbenigol gennym, o rwydi ar gyfer y pyllau i jariau dal pryfaid. Mae ein ceidwaid wedi'u hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf ac Ysgolion Coedwig (lefel 1).

Mwy nag ymweliad

Er mai ysgolion cynradd sy'n chwilio am ein cymorth fel arfer, mae'r Gwasanaeth Ceidwaid yn hapus i helpu ar lefelau addysg uwchradd a thrydyddol hefyd.

Mae'n bosib y byddwn ni'n gallu cynnig cymorth a chyngor ar ddarparu gweithgareddau astudiaethau maes, gwaith ymarferol, profiad gwaith a gweithgareddau yn yr ysgol fel ardaloedd natur ysgolion ac Ysgolion Eco.

Gwybodaeth Gyswllt

Os hoffech ddod â'ch dysgu'n fyw, cynnig diwrnod gwych i'ch plant neu bod ymholiad addysg awyr agored gennych chi y gallwn ni ei ateb, yna cysylltwch ag Andy Wilkinson, yr Uwch Geidwad Addysg Amgylcheddol

Tel: 01443 815546E-bost: wilkia@caerffili.gov.uk

Cynnwys a Awgrymir