Mae Dolydd Cwmllwydrew yn Warchodfa Natur Leol. Cawsant eu dynodi am fod dolydd fel y rhain yn diflannu'n gyflym. Mae defaid a gwartheg ein fferm yn pori'r dolydd fel rhan o'r dull rheoli traddodiadol sy'n helpu'r blodau gwylltion i flodeuo.
Wedi'u lleoli yng ngogledd Parc Cwm Darran, mae dwy ddôl wellt, dôl forgrug, dau bwll a choetir bach o wern yn Nolydd Cwmllwydrew. Mae'r Ddôl Forgrug yn gartref i dros 300 o dwmpathau morgrug melyn, sy'n darparu bwyd i'r cnocellau gwyrdd. Mae modd gweld y fritheg berlog a'r glesyn cyffredin o ddechrau'r haf.
Yn nghors dolydd y corstir a'r pyllau, mae gold y gors yn blodeuo yn y gwanwyn, gyda thegeiriau brych a thamaid y cythraul yn dryfrith yn yr haf. Mae nadroedd y gwair, llyffantod a madfallod dŵr yn byw o gwmpas y pyllau. Os fyddwch chi'n lwcus, efallai y gwelwch chi dylluanod gwynion yn hela am lygod gyda'r nos. Mae gwybedogion brith yn nythu yn y coetir.
Ble mae'r dolydd? Mae Dolydd Cwmllwydrew yn rhan o Barc Cwm Darran.
Cyfeirnod Grid SO 112036
Sut i gyrraedd Mae manylion ynghylch sut i gyrraedd ar gael ar brif dudalen Parc Cwm Darran.
Y Ganolfan Ymwelwyr, Parc Cwm Darran, Deri, Bargoed, CF81 9NR
Ffôn: 01443 875557
E-bost: ParcCwmDarran@caerffili.gov.uk