Mae ein mannau gwyrdd yn ddelfrydol ar gyfer teithiau byrion diogel heb draffig, ac mae beicio'n ffordd wych o deithio o gwmpas yr ardaloedd mwy o faint. Fodd bynnag, does dim cymaint o gyfleoedd i'r beiciwr brwd. Mae'r rhan fwyaf o'n parciau gwledig ar lwybrau sy'n ffurfio rhan o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, felly maent mewn lle cyfleus i archwilio'r rhwydwaith ehangach yma.
Dyma ganllaw cyflym i'r cyfleoedd beicio yn ein mannau gwyrdd.
Parc Cwm Darran Mae dewis o dri llwybr seiclocrós pwrpasol gyda chyfeirbwyntiau sydd hefyd yn addas ar gyfer beicio mynydd. Mae'r rhain ym amrywio rhwng 1.2, 2 a 2.5km o hyd, ond mae pob un yr un mor anodd â'i gilydd. Mae'r cymysgedd o wahanol arwynebau ar y llwybrau, gan gynnwys tarmac, gwair a siâl, ac mae amrywiaeth o ddringfeydd a disgynfeydd bychain, a rhwystrau dewisol i'w taclo. Mae Parc Cwm Darran yn gorwedd dau draean o'r ffordd i fyny Llwybr 469 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol o Fargoed i Fochriw, ac os hoffech archwilio ymhellach gallwch ddilyn y cysylltiad at Barc Coetir Bargod.
Parc Penallta Ymhell o ardaloedd gwastad yr Arena Ddigwyddiadau a gwaelod y cwm, mae beicwyr yn wynebu dringfeydd a disgynfeydd sy'n cysylltu'r ddau i wneud cylchred o amgylch y parc. Nid yn unig maen nhw'n serth, ond gall arwyneb y llwybr fod yn eithaf garw, felly dylech fod yn ofalus ac yn wyliadwrus o ddefnyddwyr eraill ar y llwybr. Mae'r Llwybr Celtaidd, Llwybr 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, yn rhedeg drwy waelod y cwm, sy'n cynnig teithiau dros draphont nodedig Hengoed ac i lawr tuag at Barc Gwledig Cwm Sirhywi a Pharc Waunfawr. I'r Gorllewin, mae Llwybr 47 yn arwain tuag at Barc Taf Bargoed a Thaith Taf (Llwybr Beicio Cenedlaethol R8) wrth Fynwent y Crynwyr.
Parc Gwledig Cwm Sirhywi Llwybr 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yw'r prif lwybr beicio yn y parc, sy'n dilyn yr hen reilffordd. Gan ddechrau o Ganolfan y Lleuad Lawn, bydd taith gylchol i'r Halfway House yn Gelligroes sy'n dychwelyd ar lwybr paralel ar ochr ddwyreiniol yr afon o Bont Lawrence Rees i Nine Mile Point yn daith 8.5 milltir / 13.5 km o hyd. Byddai teithiau hirach tua'r gogledd ar hyd Llwybr 47 yn mynd â chi ar hyd y Llwybr Tri Pharc, ar draws Traphont Hengoed ac ymlaen tuag at Barc Penallta. I'r beiciwr mynydd dewr, bydd y ffyrdd plwyf a llwybrau'r goedwig yng nghoetir cyfagos Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig digon o antur wrth i chi ddringo i frig ochrau'r cwm, lle cewch olygfeydd anhygoel.
Parc Coetir Bargod Pa ffordd well o archwilio Parc Coetir Bargod nag ar ddwy olwyn? Gydag ystod o gylchdeithiau tarmac, gwair, a llwybrau o lwch cerrig i ddewis ohonynt, gallwch ddyfeisio eich llwybrau eich hunain. Mae Llwybr 468 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, o Bengam i Drebiwt, yn dechrau ym Mhengam ar ochr ddeheuol Parc Coetir Bargoed. Dilynwch y llwybr tua'r gogledd at ben Cwm Rhymni, neu ymunwch â Llwybr 469 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol i Gwm Deri a Pharc Cwm Darran am ddiod i dorri syched yng nghaffi'r Ganolfan Ymwelwyr.
Parc Glan-yr-Afon Does dim llawer o gyfleoedd beicio ym Mharc Glan yr Afon heblaw am Lwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, sy'n rhan o'r Llwybr Celtaidd. Er y gallwch feicio i Lundain neu Abergwaun ar Lwybr 4, efallai y byddai'n fwy addas dilyn Llwybr y Wraig Werdd sy'n cysylltu Nantgarw a Machen.
Parc Morgan Jones Mae Llwybr 475 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn mynd drwy'r parc o'r gyffordd i Lwybr R4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghastell Caerffili, gan arwain tuag at Gwm Aber i Senghennydd.
Parc Waunfawr Wedi'i leoli ar y Llwybr Celtaidd hefyd, Llwybr 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Dyma le da i ddysgu beicio, ond er mwyn archwilio ymhellach ar hyd y Llwybr Celtaidd bydd rhaid beicio ar y ffordd mewn rhannau.
Coedwig Cwmcarn Fel canolfan beicio mynydd nodedig, mae Cwmcarn yn Fecca i'r rhai sy'n chwilio am gyffro ar ddwy olwyn. I gael manylion am yr hyn sydd gan yr ardal hon i'w gynnig i'r beiciwr mynydd selog, ewch i wefan Coedwig Cwmcarn.
Sustrans Elusen genedlaethol yw Sustrans sy'n hyrwyddo trafnidiaeth a beicio cynaliadwy. Mae eu gwefan yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys mapiau o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
Beicio yn y fwrdeistref sirol Yn ogystal â'r llwybrau a'r rhwydweithiau a gaiff eu hyrwyddo, mae Caerffili yn llawn llwybrau naturiol yng nghefn gwlad sy'n cynnwys llwybrau ceffylau, cilffyrdd cyfyngedig a ffyrdd coedwigoedd. Mae mapiau'r Arolwg Ordnans yn dangos y llwybrau hyn, ac maent yn werthfawr iawn wrth ganfod y ffordd. Mae beicio ffordd hefyd yn dod yn gynyddol boblogaidd, ac mae llawer o ddigwyddiadau a rasys yn defnyddio'r ddringfa enwog at frig Mynydd Caerffili.
Clybiau Beicio Mae llawer o glybiau a grwpiau cymdeithasol sy'n beicio yn lleol yn y fwrdeistref sirol. Mae manylion am y rhain ar gael ar y we fel arfer.
Trac Pwmpio Heol y Fan Cyfres o neidiadau ac ysgafellau yw'r Trac Pwmpio ar Heol y Fan yng Nghaerffili, sy'n addas ar gyfer beicio bmx a reidio rhydd i feicwyr ddysgu ac i ymarfer eu sgiliau. Mae modd parcio ym maes parcio Coed Parc y Fan Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda thaith fer i'w cherdded neu feicio i gyrraedd y llwybr. Ewch i'w tudalen Facebook 'Van Rd Trails'.