Os ydych chi'n chwilio am le i bysgota, yna mae'n bosib bod ein mannau gwyrdd yn berffaith ar eich cyfer chi. Mae gan Barc Cwm Darran, Parc Penallta a Phwll Pen-y-Fan gyfleusterau pysgota. Clybiau pysgota lleol sy'n rheoli'r holl safleoedd hyn, nid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae tocynnau dydd ar gael i bobl nad ydyn nhw'n aelodau.
Math o Ddŵr Llyn Bach
Math o Bysgota Pysgodfa fras â rhywogaethau cymysg
Stoc y Bysgodfa Ail-stociwyd y bysgodfa ddechrau 2018 gyda charp hyd at chwe phwys, a rhai miloedd o rufelliaid rhwng 4 a 10 modfedd o hyd. Mae rhywfaint o'r stoc gwreiddiol yn dal i oroesi yn y llyn, ac ar gyfartaledd mae'r carpiaid oddeutu 15 pwys. Mae draenogiaid dŵr croyw a llyfrothod dŵr croyw hefyd yno i'w dal.
Caiff y Bysgodfa ei Rheoli gan Gymdeithas Bysgota Rhymni a'r Cylch
Rheolau'r Bysgodfa Mae angen trwydded wialen ar unrhyw blant sy'n dymuno cymryd rhan mewn twrnamaint
Cyfleusterau Pysgota Anabl Oes
Trwyddedau dydd Mae trwyddedau dydd (£5 i Oedolion, £2 i blant o dan 16 oed) ar gael o Green's Fishing Tackle, Pontllan-fraith (01495 221881), Swyddfeydd Post Deri a Fochriw, a gan swyddogion eraill Cymdeithas Bysgota Rhymni a'r Cylch.
Math o Ddŵr Dau bwll bach gyda phegiau pysgota pwrpasol
Math o Bysgota Pysgodfa fras â rhywogaethau cymysg
Stoc y Bysgodfa Mae gan y ddau bwll stoc o rufelliaid, pysgod rhudd a draenogiaid dŵr croyw sydd hyd at 1 pwys. Merfogiaid, sgretenod a byrbysgod hyd at 2 bwys a charp cyffredin/gloyw/ysbryd hyd at 10 pwys.
Rheolir y Bysgodfa gan Ffederasiwn Clybiau Pysgota Afon Rhymni
Rheolau'r Bysgodfa
Cyfleusterau Pysgota Anabl Oes
Trwyddedau Dydd Mae pysgota am ddim i aelodau clybiau pysgota sy'n gysylltiedig â Ffederasiwn Clybiau Pysgota Afon Rhymni. Rhaid prynu tocyn dydd ymlaen llaw (£5 i Oedolion, £2 i blant o dan 16 oed) os nad ydych chi'n aelod o'r clybiau hyn. Nid oes modd prynu tocynnau dydd ar lan yr afon. Gellir prynu tocynnau gan Green's Fishing Tackle, Pontllan-fraith (01495 221881) a Tony's Tackle, Caerffili (029 2088 5409).
Math o Ddŵr Cronfa Ddŵr
Math o Bysgota Hela - Pysgota â phlu
Stoc y Bysgodfa Brithyllod Brown a Seithliw
Rheolir y Bysgodfa gan Glwb Pysgota Islwyn a'r Cylch
Cyfleusterau Pysgota Anabl Nac oes
Trwyddedau Dydd Mae trwyddedau dydd (£10 am dri physgodyn) ar gael o siop Greens Tackle, Pontllan-fraith, 01495 221881 neu ar-lein ar wefan Clwb Pysgota Islwyn a'r Cylch
Ni chaniateir pysgota yn ein mannau gwyrdd nac yn y pyllau eraill ym Mharc Penallta a Pharc Cwm Darran.