Mae Cors Penallta yn enghraifft fach o ros sydd wedi'i lleoli ym Mharc Penallta. Cynefin cymysg yw rhos sydd wedi'i lenwi â chyfoeth o rywogaethau o laswellt y gweunydd a phorfeydd brwynaidd. Mae'r math hwn o gynefin wedi'i effeithio'n wael gan newidiadau mewn arferion ffermio, ac mae'r rhosydd yn y de yn rhan arwyddocaol o adnodd y byd.
Mae'r gors yn cynnwys glaswelltir bach a chorsiog, gyda thwmpathau morgrug wedi'u gwasgaru yng nglaswellt y gweunydd. Mae tegeirian brych y rhos a thegeirian-y-gors deheuol, dant y pysgodyn a thamaid y cythraul yn lliwio'r gors yn ystod yr haf. Mae gwern a helyg yn ffynnu yn yr amodau corsiog o gwmpas ffiniau'r glaswelltir, gyda chynffon y gath, cegid, cegid y dŵr, byddon chwerw a helyglys pêr oll yn darparu cynefin ardderchog i deloriaid. Mae'n bosib cael cip ar frithribin porffor, sef glöyn byw sy'n anodd ei weld, yn uchel ar yr hen goed derw.
Ble mae'r gors? Mae Cors Penallta ym Mharc Penallta.
Cyfeirnod Grid ST 136948
Sut i gyrraedd? Mae manylion ynghylch sut i gyrraedd ar gael ar brif dudalen Parc Penallta.
Y Ganolfan Addysg, Parc Penallta, Heol Penallta, Ystrad Mynach, Hengoed. CF82 7GL.
Ffôn: 01443 816853
E-bost: cefngwlad@caerffili.gov.uk