Next

Mae ein mannau gwyrdd yn llefydd delfrydol i chi fwynhau amrywiaeth o weithgareddau hamdden anffurfiol, ond mae ganddon ni hefyd feysydd ar gyfer chwaraeon mwy ffurfiol. Mae ein meysydd awyr agored, sy'n addas ar gyfer chwarae pêl-droed, rygbi, tennis, criced a bowls, ar gael ledled y fwrdeistref sirol.

Mae ganddon ni lawer o dimau a chlybiau sefydledig yng Nghaerffili, ac mae ein caeau chwarae pêl-droed a rygbi ar gael yn ystod y gaeaf a'n lleiniau criced a bowls a'n cyrtiau tennis ar gael drwy gydol yr haf. Mae ystafelloedd newid a chawodydd hefyd ar gael yn y rhan fwyaf o gyfleusterau.

Lleiniau Bowls

Mae ganddon ni 20 o leiniau gwair gwastad yn y fwrdeistref sirol. Mae'r lleiniau'n cael eu rhedeg a'u rheoli gan y clybiau cartref, gyda thros 40 o glybiau gwahanol yn rhan o'r gwaith. Mae'r lleiniau hefyd ar agor i aelodau o'r cyhoedd ar ffurf trefniant 'talu a chwarae'. Fel arfer mae modd talu i chwarae rhwng canol dydd a phan fydd hi'n nosi, yn amodol ar argaeledd y llain chwarae.

Mae'r tymor bowls awyr agored yn para rhwng canol mis Ebrill a dechrau mis Medi fel arfer.

Mae un o'r Canolfannau Bowls dan do gorau yn y de ganddon ni hefyd. Mae Clwb Bowls Islwyn ym Mhontllan-fraith ar agor drwy gydol y flwyddyn gydag wyth llain bowls ac ardal wylio fawr.

Lleiniau Criced

I'r rheini ohonoch chi sy'n mwynhau prynhawniau diog yn yr haf yn gwrando ar beli'n cael eu bwrw gyda batiau, mae ganddon ni 7 llain griced sy'n gartref i naw clwb criced gwahanol. Mae'r tymor criced yn para rhwng diwedd mis Ebrill a dechrau mis Medi fel arfer. Mae rhagor o wybodaeth am sut i archebu llain griced ar gael ar y dudalen Archebu Caeau Chwarae.

Cyrtiau Tennis

Os ydych chi'n meddwl mai chi yw'r Andy Murray neu'r Serena Williams nesaf, beth am roi cynnig ar ddefnyddio un o'n cyrtiau tennis. Mae ganddon ni 21 o gyrtiau mewn saith lleoliad gwahanol, lle gallwch chi ymarfer eich serfiad a'ch foli. Mae modd archebu cyrtiau tennis drwy'r clwb bowls lleol sy'n gyfrifol am reoli'r system archebu. Mae manylion am leoliadau'r cyrtiau ar gael i'w llwytho i lawr yma.

Caeau Chwaraeon

Mae ein prif gaeau chwaraeon y gaeaf yn cynnwys 116 o gaeau pêl-droed a rygbi sydd ar gael yn ein parciau. Cafodd 2200 o gemau eu chwarae arnyn nhw y llynedd.

Mae ein tudalen Twitter, Caerphilly Pitchwise, yn ffordd gyfleus i dimau gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyflwr y caeau chwarae, yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd garw.

Mae cyngor ar sut i logi caeau chwarae ar gael ar ein tudalen Archebu Caeau Chwarae. Ar y dudalen honno gallwch ddod o hyd i ffurflenni cais yn ogystal â'r telerau ac amodau sy'n berthnasol i bob tîm.

Gwybodaeth Gyswllt

Mae rhagor o wybodaeth am ein caeau chwarae a'n cyfleusterau awyr agored eraill ar gael gan y tîm Cyfleusterau Awyr Agored:

Ffôn: 01443 811452

E-bost: cyfleusterauawyragored@caerffili.gov.uk

Cynnwys a Awgrymir