Ni ddylid cymysgu'r parc yma gyda Pharc Coetir Bargod, sy'n rhedeg ar hyd yr Afon Rhymni. Parc Bargoed yw parc trefol mwyaf ein bwrdeistref sirol, sy'n gorchuddio 19 hectar. Mae'r gwelyau blodau addurniadol, gan gynnwys 'y delyn flodeuog', yn ymestyn ar draws y lawntiau ym mlaen y parc, ac mae'r ardaloedd agored o laswellt a hen goed yn creu parc hyfryd i fynd am dro.
Ym 1905, prydleswyd tir a oedd yn "bedwar erw ar bymtheg, un rhwd a thri perc" gan deulu'r Hanbury i gael Parc Trefol gan Gyngor Plwyf Gelligaer am rhent o £25 y flwyddyn. Roedd modd i'r Cyngor Plwyf brynu'r tir ym 1929, ac fe dalwyd £550 i'r perchnogion ar y pryd, sef Ystad Pont-y-pŵl. Roedd hwn yn swm sylweddol ar y pryd, ond wrth ystyried gwerth tir heddiw, mae £28 yr erw yn swnio fel bargen!
Prynwyd mwy o dir gan Gyngor Dosbarth Trefol Gelligaer ar ddechrau'r pumdegau i adeiladu trac athletau a stand, sy'n dal i fodoli heddiw. Ychwanegwyd y darn olaf o dir ym 1960 am swm hael o £10, pan bu i gynllun diwygio ffordd newid ffin y parc rhywfaint ar hyd Park Drive.
Wrth mynedfa wreiddiol y parc ar Upper Wood Street, mae gatiau coffa hardd o haearn gyr. Codwyd nhw ym 1952 i gofio Gŵyl Prydain, a gynhaliwyd y flwyddyn gynt.
Mae lle i chwaraeon yn y parc hwn, gyda chaeau pêl-droed a rygbi a chae synthetig sy'n addas ym mhob tywydd. Mae'r prif gae rygbi, ynghyd â'i stand, yn gartref i Glwb Rygbi Bargoed. Mae digon i'w wneud i gadw aelodau ifanc eich teulu'n brysur. Yn y maes chwarae traddodiadol mae llithrennau, siglenni a fframiau dringo, ac mae rhannau newydd o'r parc yn cynnwys Ardal Gemau Aml-ddefnydd a rampiau sglefrfyrddio. Mae'r ardaloedd agored o wair yn ddelfrydol i hedfan barcud, i gael picnic, neu i redeg o gwmpas i gael rhywfaint o awyr iach.
Ble mae'r parc? Mae Parc Bargoed ar ochr orllewinol Bargoed, wedi'i leoli rhwng Moorland Road, Western Drive a Park Drive. CF81 8PS
Sut i gyrraedd Mewn car - Park Drive, Bargoed. Ar fws - Mae gwasanaeth bysiau da ym Margoed. Mae Gwasanaethau C18 Bargoed i Ystad Gilfach, a X38 Bargoed i Bontypridd, yn stopio'n agos at y parc. Ar drên - Yr orsaf drenau agosaf yw Gilfach (15 munud o gerdded).
Oriau agor Mae'r parc ar agor yn ystod oriau golau dydd drwy'r flwyddyn. Mae mynediad i'r parc am ddim.
Meysydd parcio Mae maes parcio oddi ar Park Drive gyferbyn ag Eglwys y Methodistiaid Bargoed.
Pwyntiau mynediad eraill Mae modd cyrraedd y parc ar droed mewn sawl lleoliad ar Moorland Road, Park Drive ac Upper Wood Street.
Toiledau Does dim toiledau ar gael ar y safle.
Hygyrchedd Mae'r safle ar lethr ysgafn, o'r gorllewin i'r dwyrain. Mae arwyneb tarmac gan y llwybrau ac maent yn wastad yn gyffredinol, ond mae rhai llethrau ysgafn. Mae gatiau wrth y mynedfeydd, ond nid yw'r rhain yn peri rhwystr yn ystod yr oriau agor. Mae dau le parcio anabl yn y maes parcio. Mae meinciau ar gael drwy'r parc.
Gwasanaethau Parciau, Tŷ Bargod, 1 St Gwladys Way, Bargod, CF81 8AB
Ffôn: 01443 811452
E-bost: parciau@caerffili.gov.uk