Next

Mae'r canlynol yn fannau gwyrdd eraill ym mwrdeistref sirol Caerffili sy'n lefydd gwych i weld bywyd gwyllt. Gan nad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sy'n rheoli nac yn berchen ar y tir yma, dylech wirio gyda'r perchnogion priodol am unrhyw gyfyngiadau neu amodau sy'n ymwneud â chael mynediad i'r safle cyn i chi ymweld.

 

Comin Rhydri, Rhydri

Cyfeirnod Grid   ST183865

Tir pori â waliau cerrig, glaswelltir ar fryniau a choetiroedd. Mae modd dod o hyd i blanhigion llafn y bladur a thegeirian-y-gors deheuol mewn ardaloedd gwlypach. Efallai y gwelwch chi glochdar y cerrig yn eich gwylio chi o'r eithin.

 

Mynydd Caerffili, Caerffili

Cyfeirnod Grid   ST157865

Mynydd comin poblogaidd sy'n llawn llwybrau sy'n croesi drwy'i gilydd a'r eithin, y lluswydd a'r mawnog. Lle gwych i weld yr ehedydd, y bras melyn a chrec yr eithin. Mae modd gweld madfallod a nadroedd hefyd!

 

Coed Craig Rhiw'r-perrai, Draethen

Cyfeirnod Grid   ST229871

Ymddiriedolaeth Cadwraeth Rhiw'r-perrai sy'n rheoli ac yn berchen ar y coetir hynafol hwn sy'n adfer. Ewch i ymweld â'r safle yn y gwanwyn i weld clychau’r gog a chennin pedr gwyllt.

Ymddiriedolaeth Cadwraeth Rhiw'r-perrai     www.ruperra.org.uk     Ffôn: 029 2088 5840

 

Coed-y-Werin, Caerffili

Cyfeirnod Grid   ST168862

Ardal eang o goetir cymysg gyda nentydd, corsydd a hen weithfeydd. Mae'r coetiroedd, sy'n cael eu rheoli gan Ymddiriedolaeth Coetiroedd Caerffili a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn gartref i'r pathew - y creadur bach prin cenedlaethol. Welwch chi gnau cyll sydd ag olion cnoi? Mae'r goedwig yn llawn ffyngau yn yr hydref.

Ymddiriedolaeth Coetiroedd Caerffili     www.caerphilly.org     Ffôn: 029 2088 6863

 

Twmbarlwm, Rhisga

Cyfeirnod Grid   ST243925

Lleoliad gwych i gerdded ymysg grug a rhosydd lluswydd. Yn yr ardaloedd gwlyb, fe welwch chi figwyn a phennau gwynion plu'r gweunydd.

 

Dan-y-Graig, Rhisga

Cyfeirnod Grid   ST235905

Ymddiriedolaeth Natur Gwent sy'n rheoli ac yn berchen ar y warchodfa natur yma. Mae'n enghraifft brin o laswelltir calch, sy'n anfynych i'w gweld yn y sir. Blodau gwylltion a glöynnod byw ym mhob man!

Ymddiriedolaeth Natur Gwent     www.gwentwildlife.org/reserves/dan-y-graig     Ffôn: 01600 715501

Cynnwys a Awgrymir