Next

Chewch chi unman gwell a mwy cyffrous i ddarganfod ac i ddysgu na'ch mannau gwyrdd lleol. Maen nhw'n lefydd perffaith i ddysgu a dod i ddeall yr amgylchedd naturiol yn well ac i gael profiadau synhwyraidd uniongyrchol.

Digwyddiadau

Y ffordd hawsaf gan lawer o bobl i gymryd rhan ac i ddysgu rhagor am ein mannau gwyrdd, yr amgylchedd naturiol a'r bywyd gwyllt godidog yw drwy ein digwyddiadau. Mae ein tudalen Ddigwyddiadau yn cynnwys manylion am ein holl ddigwyddiadau er mwyn i chi gael dod i'w mwynhau.

Clybiau Bywyd Gwyllt

Rydyn ni'n cynnal dau glwb ar gyfer plant sydd â diddordeb mewn bywyd gwyllt a chefn gwlad. Mae ein clwb Ceidwaid Iau ar gyfer plant rhwng 8 ac 11 oed ac mae ein clwb Ceidwaid Arddegol ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 14 oed. Gorau oll, mae'r ddau glwb am ddim i ymuno â nhw ac yn cynnwys sesiynau cyffrous llawn hwyl. Oes gennych chi ddiddordeb neu ydych chi'n gwybod am rywun arall sydd â diddordeb? Dewch i gymryd rhan.

Ysgolion

Mae'r Gwasanaeth Cefn Gwlad yn cynnig cyfleoedd am ymweliadau cyffrous, arloesol, boddhaus, llawn hwyl ar gyfer ysgolion a grwpiau. Os ydych chi'n athro neu'n arweinydd grŵp sydd â diddordeb cynnal ymweliad, edrychwch ar ein tudalen Ysgolion i weld sut allwn ni eich helpu.

Dysgu ar y safle

Mae gan lawer o'n mannau gwyrdd fapiau a byrddau gwybodaeth sy'n rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y nodweddion sydd i'w gweld yno. Mae ganddon ni ddwy Daith Sain lle gallwch chi wrando ar sylwebaeth am wahanol nodweddion o Barc Cwm Darran a Pharc Penallta.

Ond cofiwch, un o'r ffynonellau gwybodaeth gorau yw ein ceidwaid cyfeillgar, felly cofiwch eu holi nhw - maen nhw bob amser yn barod i helpu!

Cynnwys a Awgrymir