Next

Nid oes unman gwell na'r awyr agored ar gyfer awyr iach ac ymarfer corff. Mae ein mannau gwyrdd i gyd yn lleoedd gwych i fwynhau ein hamgylchedd naturiol hyfryd. Maen nhw ar garreg eich drws ac yn cynnig ystod o weithgareddau ar gyfer pob gwahanol chwaeth.

Os ydych chi'n chwilio am lawnt fowlio, cwrt tenis neu gae chwaraeonar gyfer eich tîm rygbi neu bêl-droed, yna mae llawer o'n parciau trefol fod yr union beth yr ydych yn edrych amdano. Angen rhywle i flino'r plant yna mae gennym feysydd chwarae, rampiau sglefrio a meysydd gemau aml-ddefnydd.

Am weithgareddau mwy anffurfiol, gallwch gerdded yn ein parciau gwledig gyda'r teulu neu fynd ar daith beicio gyda ffrindiau. Mae yna hefyd fanylion am ein cyfleusterau gwersylla a physgota.

Gall ein mannau gwyrdd wneud man cychwyn delfrydol os ydych chi am gerdded neu feicio pellteroedd hirach. Mae gan ein tudalennau Llwybrau Cerdded a Beicio  gyda mwy o wybodaeth am y llwybrau a'r llwybrau hirach sydd ar draws cefn gwlad gwych Caerffili.

Mae gan lawer ohonoch ddiddordeb mewn rhoi rhywbeth yn ôl i'ch mannau gwyrdd a chymunedau lleol. Mae gennym fanylion am y cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer gwirfoddoli lle gallwch helpu.

Pa weithgaredd bynnag yr ydych yn ei wneud, dilynwch y Codau Cefn Gwlad neu Is-ddeddfau a dangoswch barch at ddefnyddwyr mannau gwyrdd eraill.

Cynnwys a Awgrymir