Next

Allwch chi ein helpu?

Yn ein Mannau Gwyrdd

Os ydych chi'n ddefnyddiwr rheolaidd o'n mannau gwyrdd a'ch bod chi, fel ni, yn meddwl eu bod nhw'n wych, efallai fod gennych ddiddordeb mewn rhoi rhywbeth yn ôl i'r asedau cymunedol pwysig hyn. Rydyn ni bob amser yn awyddus i glywed gan unigolion neu grwpiau sydd am roi ychydig oriau i'n helpu i ofalu am ein mannau gwyrdd. Gallai hyn fod yn rhywbeth rheolaidd neu'n ddigwyddiad un tro.

Mae amrywiaeth o ffyrdd o helpu. Er ein bod ni'n ceisio gwneud ein gorau, mae ysbwriel yn dal i ymddangos. Oes gyda chi ychydig o amser i helpu i gadw eich hoff le yn lân? Os hoffech chi weithio ochr yn ochr â'n ceidwaid i'w helpu i wella ein parciau gwledig, mae cyfleoedd ar gael i chi yma hefyd.

Gofalu am fywyd gwyllt

Os ydych chi'n ymddiddori mewn bywyd gwyllt, efallai y byddai'n well gennych gynnal arolygon bywyd gwyllt neu'n helpu ni i reoli ein hardaloedd bywyd gwyllt. Ydych chi wedi gweld un o'n rhywogaethau mwyaf prin neu'n gwybod am ddôl sy'n llawn blodau gwylltion ar gyfer y Prosiect Banc Hadau Lleol? Cofiwch roi gwybod i ni - mae eich cofnodion yn gallu cyfrannu'n sylweddol at ein dealltwriaeth o'n bioamrywiaeth lleol.

Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Caerffili yn croesawu aelodau unigol newydd neu gynrychiolydd ar ran grŵp sydd â diddordeb mewn bywyd gwyllt ac sydd eisiau cyfrannu drwy gynnal cyfarfodydd, digwyddiadau a chyrsiau hyfforddi.

Gyda Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Mae ein tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus hefyd yn chwilio am gymorth i ofalu am y rhwydwaith eang o hawliau tramwy sy'n bodoli yn y fwrdeistref sirol. Gallech chi helpu drwy dirfesur hawliau tramwy mewn ardal gymunedol, gosod arwyddion ar lwybrau neu helpu i ofalu am y rhwydwaith drwy gynnal a chadw camfeydd, gatiau a phontydd.

Volunteers clear scrub at Penallta Marsh

Arwain Taith Gerdded Iachus

Allech chi arwain taith gerdded fyr? Allech chi ysbrydoli pobl eraill i ddilyn ffordd o fyw sy'n fwy iachus? Mae angen tywyswyr cerdded newydd ar ein grwpiau Teithiau Cerdded Iachus. Rydyn ni'n cynnig hyfforddiant llawn a chymorth rheolaidd ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhoi cynnig ar y rôl hon.

Yn y Fforwm Mynediad Lleol

Mae'r Fforwm Mynediad Lleol yn cynghori Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru ynghylch sut i wella mynediad y cyhoedd i gefn gwlad at ddibenion hamdden ac i fwynhau ardal bwrdeistref sirol Caerffili. Mae'n cynrychioli buddiannau'r bobl sy'n defnyddio'r ardaloedd gwledig ar gyfer gwaith a hamdden ac yn penodi aelodau i'r Fforwm. Gallwch fynd i'r fforwm fel aelod o'r cyhoedd hefyd.

Gyda Lluniau

Ac yn olaf, rydyn ni bob amser yn chwilio am luniau newydd a ffres o'n mannau gwyrdd a'u bywyd gwyllt ar gyfer y wefan a'n cyhoeddiadau. Felly, os ydych chi'n dda gyda chamera, bydden ni wrth ein boddau'n gweld eich lluniau.

Beth allwch ei ddisgwyl ganddon ni?

Mae ein gwirfoddolwyr a'n cynorthwywyr yn rhan werthfawr a phwysig o'r gwasanaeth. Mae'n bwysig bod ein perthynas â chi yn un sy'n fuddiol i'r ddwy ochr, felly:

  • byddwn yn sicrhau bod y gwaith yn addas ar eich cyfer chi ac o ddiddordeb i chi
  • byddwn yn darparu unrhyw hyfforddiant a chyfarwyddiadau
  • byddwn yn darparu unrhyw gyfarpar diogelu
  • byddwn yn eich cefnogi ac yn cynnig adborth rheolaidd

Sut gallaf gymryd rhan?

Isod ceir manylion cyswllt y gwahanol adrannau sy'n ymwneud â gwirfoddoli. E-bostiwch neu ffoniwch y cyswllt perthnasol ar gyfer sgwrs anffurfiol ynghylch sut y gallech chi gymryd rhan. Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych.

Parciau Gwledig 

Ffoniwch a siaradwch â gwarchodwr yn un o swyddfeydd y parc neu cysylltwch â'r Cydlynydd Gwirfoddolwyr

Ffôn: 01443 834317

E-bost: cefngwlad@caerffili.gov.uk

Parciau Trefol

Gwasanaethau Parciau

Ffôn: 01443 811452 

E-bost: parciau@caerffili.gov.uk

Arolygon Bywyd Gwyllt a Phartneriaeth Bioamrywiaeth Caerffili

Y Tîm Bioamrywiaeth

Ffôn: 01443 866615

E-bost: cefngwlad@caerffili.gov.uk

Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Adran Hawliau Tramwy

Ffôn: 01443 866645/866669

E-bost: hawliautramwy@caerffili.gov.uk

Cerdded Iachus

Arbenigwr Ymarfer Corff Cefn Gwlad

Ffôn: 07788 547350

E-bost: beggbj@caerffili.gov.uk

Fforwm Mynediad Lleol

Philip Griffiths (Ysgrifennydd)

Ffôn: 01443 866429

E-bost: cefngwlad@caerffili.gov.uk

Cynnwys a Awgrymir