Next

Bydd eich ymweliad â Pharc Waunfawr yn llawn rhyfeddodau annisgwyl - o'r llwyfan band olaf yn y fwrdeistref i'r ardd sydd wedi ennill gwobr aur. Mae'r parc, sy'n dyddio o ddechrau'r cyfnod Edwardaidd, yn eistedd mewn lleoliad dramatig ym mhen isaf Cwm Ebwy ger Crosskeys gyda'r bryniau cyfagos yn edrych i lawr arno.

Mae Parc Waunfawr yn lleoliad chwaraeon pwysig i ardaloedd Crosskeys a Phont-y-waun ac mae cyfran fawr o naw hectar y parc yn cael ei defnyddio ar gyfer criced, pêl-droed a rygbi. Yn ychwanegol at hynny, mae'r cyfleoedd chwaraeon eraill yn cynnwys llain bowls, offer campfa awyr agored ac ardal chwaraeon aml-ddefnydd. Ar gyfer yr ymwelwyr iau, mae ardal chwarae 10 gorsaf yn parc sy'n cynnwys amrywiaeth o lithrennau, siglenni a fframiau dringo.

Os fyddwch chi wedi cael digon ar Barc Waunfawr, yna mae Llwybr Celtaidd (Llwybr 47) y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhedeg drwy'r parc, sy'n rhoi digon o gyfleoedd i chi feicio yn eich blaen i Barc Gwledig Cwm Sirhywi neu hyd yn oed Parc Penallta.

Mae Parc Waunfawr yn falch o'i gwobr y Faner Werdd sy'n cael ei rhoi fel cydnabyddiaeth am fan gwyrdd sy'n cael ei reoli'n dda.

Waunfawr Park sign

Beth sydd i'w wneud a'i weld

Gardd y Sioe

Cafodd gardd y sioe ei dylunio'n wreiddiol ar gyfer cael ei harddangos yn Sioe Flodau Caerdydd y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yn 2007. Llwyddodd yr ardd i ennill y wobr aur fawreddog yn ogystal â'r ardd "orau yn y sioe". Cafodd yr ardd, a oedd yn seiliedig ar thema arbed dŵr, ei dylunio i ddefnyddio planhigion oedd yn gallu goresgyn sychder.  Addaswyd tri tanc carthion i ddal dŵr glaw fel bod modd eu defnyddio fel casgenni dŵr. Er mwyn cuddio tarddiad y tanciau fe gafon nhw eu newid i edrych fel popty gardd i adlewyrchu'r dyluniad Americanwyr Brodorol. Ar ôl i Sioe Caerdydd ddod i ben, cafodd yr ardd ei ail chreu ym Mharc Waunfawr, a bellach mae ar gael i bawb i'w mwynhau.

Yr Ardd Gymunedol ac Ysgol y Goedwig

Mae'r Ardd Gymunedol ac Ysgol y Goedwig yn cael eu defnyddio'n rheolaidd gan grwpiau ac ysgolion lleol gan gynnwys Ysgol Gynradd Waunfawr, Brownis Crosskeys, grŵp garddio Gwirfoddolwyr Crosskeys, Canolfan Ddydd Brooklands a'r gymuned leol. Mae tŷ gwydr mawr yn yr ardal, rhandiroedd a phwll bywyd gwyllt, bocsys plannu blodau amrywiol a chyfleusterau barbeciw. Mae'r ardal yn llawn gweithgarwch bron yn ddyddiol ac mae'n cynnig amgylchedd dysgu gweithredol i'w defnyddwyr. Mae'n leoliad heddychlon i bobl sydd am eistedd a gwylio'r byd yn mynd o gwmpas ei bethau.

Llwyfan Band

Mae'r llwyfan band gwreiddiol o'r ugeinfed ganrif o bwysigrwydd hanesyddol yn lleol. Ar un adeg, dyma oedd canolbwynt pob parc mawr bron, ac mae'r llwyfan hwn sy'n rhan o'n treftadaeth ni yn un o'r unig rai sydd ar ôl yn y fwrdeistref sirol.

Cynllunio eich ymweliad

Ble mae'r parc?   Mae Parc Waunfawr yn Crosskeys, sydd rhwng Afon Ebwy a Heol Parc Waunfawr.

Sut i gyrraedd   Mewn car - Stryd Gladstone a Heol Parc Waunfawr, Crosskeys. Ar fws - Gwasanaethau X15 Brynmawr i Gasnewydd, 56 Casnewydd i Dredegar, 96 Tredegar i Crosskeys, 151 Brynmawr i Goleg Casnewydd Gwent. Ar feic - Mae llwybr R47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhedeg drwy'r parc. Ar drên - Yr orsaf drenau agosaf yw Crosskeys (10 munud o gerdded)

Oriau agor   Mae'r parc ar agor yn ystod oriau golau dydd drwy gydol y flwyddyn. Mae mynediad i'r parc am ddim.

Meysydd parcio   Mae arwyddion i'ch cyfeirio at y maes parcio oddi ar Stryd Gladstone, Crosskeys. Mae'r maes parcio sydd wedi'i arwyddo oddi ar Ffordd Blackvein yn addas yn benodol i bobl sy'n defnyddio'r caeau chwaraeon. Mae maes parcio bach ar gael oddi ar Heol Parc Waunfawr.   

Pwyntiau mynediad eraill   Mae modd cael mynediad i'r parc ar droed neu ar feic oddi ar lwybr R47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar naill ben i'r parc. Mae amryw o fynedfeydd i gerddwyr ar gael ar hyd Heol Parc Waunfawr.  

Toiledau   Mae toiledau ar gael yn yr ardal ganolog. Oriau agor y parc yn ystod tymor yr haf (Ebrill - Medi) yw tua 07:00 - 19:00. Oriau agor y parc yn ystod tymor y gaeaf (Hydref - Mawrth) yw tua 07:30 - nosi. Gall amseroedd cau amrywio yn ôl argaeledd staff a'r tywydd.

Byrddau picnic   Mae byrddau picnic wedi'u lleoli yn yr ardal ganolog.

Hygyrchedd   Mae Parc Waunfawr yn wastad gyda llwybrau tarmac. Does dim pwyntiau mynediad cyfyngol ar unrhyw rai o'r mynedfeydd, ond mae rampiau mynediad byr yn bodoli wrth rai mynedfeydd oddi ar Heol Parc Waunfawr. Mae gofodau parcio anabl ar gael yn y prif faes parcio a'r maes parcio bach oddi ar Heol Parc Waunfawr. Mae'r toiledau'n cynnwys cyfleusterau anabl ar wahân. Mae digonedd o feinciau wedi'u lleoli o amgylch y parc i chi gael ymlacio.

Gwybodaeth Gyswllt

Gwasanaethau Parciau, Tŷ Bargod, 1 St Gwladys Way, Bargod, CF81 8AB

Ffôn: 01443 811452 

E-bost: parciau@caerffili.gov.uk

Cynnwys a Awgrymir