Next
Stack of felled timber
04.03.2020

Mae pysgotwyr yn helpu i wella bioamrywiaeth ym Mhwll Pen-y-Fan

Mae Ceidwaid Cefn Gwlad a Physgotwyr Islwyn wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd ym Mhwll Pen-y-Fan i wella bioamrywiaeth y pwll a'r gwlyptir o'i amgylch.

Cafodd gwaith ei wneud ar un o'r ychydig ddiwrnodau sych a heulog y gaeaf hwn i greu perth farw danddwr bren i ddarparu hafan ddiogel i bysgod bach, amffibiaid a phryfed.Bydd yr hafan hon yn caniatáu iddynt fyw a thyfu yn y pwll i ffwrdd o'r pysgod mwy a'r adar.

Cafodd rhai o'r coed helyg presennol ar lan y llyn eu prysgoedio i ddarparu'r pren ar gyfer y berth.  Bydd hyn yn caniatáu mwy o olau i'r gwlypdir i blanhigion blodeuol ffynnu a fydd yn eu tro yn darparu neithdar i wenyn a phryfed.  Wrth i'r coed dyfu'n ôl, byddant yn darparu ardaloedd nythu diogel ar gyfer adar gan gynnwys breision y cyrs fel y bydd y pentwr pren marw mawr a adeiladwyd i ffwrdd o'r pwll.

Er gwaethaf y tywydd oer, gwnaeth y gwirfoddolwyr waith gwych i wella cynefin y gwlypdir gwerthfawr hwn wrth y pwll.  Fel arfer, roedd te, coffi a bisgedi amser cinio yn helpu i annog y gweithwyr bodlon i orffen y prosiect.