Next
Stack of felled timber
23.07.2021

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dathlu Wythnos Caru Parciau 2021

Eleni, hoffai Cyngor Caerffili ddathlu Wythnos Caru Parciau 2021 gan fod parciau a mannau gwyrdd wedi bod yn gymorth hanfodol i nifer ohonom ni yn ystod y cyfyngiadau dros yr 16 mis diwethaf.

Mae Wythnos Caru Parciau, sy'n cael ei chynnal gan yr elusen amgylcheddol arobryn, Keep Britain Tidy, yn digwydd o 23 Gorffennaf tan 1 Awst 2021. Hoffai'r Cyngor ddathlu'r sawl parc sydd wedi ennill y Faner Werdd ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae rhaglen Gwobr y Faner Werdd yn cael ei darparu yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Mae arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol yn gwirfoddoli eu hamser ar ddechrau'r hydref i feirniadu safleoedd ymgeiswyr yn erbyn wyth o feini prawf llym, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheoli amgylcheddol, ac ymglymiad cymunedol.

Yng Nghaerffili, dyma'r mannau gwyrdd sydd wedi ennill statws mawreddog rhyngwladol y Faner Werdd: Coedwig Cwmcarn, Parc Morgan Jones, Parc Cwm Darran, Parc Waunfawr, Parc Ystrad Mynach, Tŷ Penallta a Mynwent Brithdir.

Ni allai fod yn haws ymweld â'n mannau gwyrdd a'n parciau gwledig gan eu bod nhw ar agor trwy gydol y flwyddyn ac mae mynediad am ddim. Maen nhw'n lleoedd anhygoel i ymweld â nhw gyda choedwigoedd, dolydd, gwlypdiroedd, golygfeydd syfrdanol, amffitheatr, a chelf annisgwyl i chi eu darganfod. Mae hyd yn oed geffyl enfawr!

Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros yr Gwastraff, Amddiffyn y Cyhoedd a Golygfa Stryd, “Mae gennym ni barciau a mannau gwyrdd gwych yn ein Bwrdeistref Sirol, ac mae staff yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod safonau'n cael eu cynnal yn y mannau hyn a phob un o'n parciau arobryn.

”Ychwanegodd: “Mae'r parciau hyn wedi bod yn hanfodol i'n lles a gweithgaredd corfforol dros yr 16 mis diwethaf yn fwy nag erioed. Fodd bynnag, mae ein mannau gwyrdd wedi bod dan bwysau anhygoel, gyda'n tîm gwastraff yn casglu mwy o sbwriel nag erioed. Wrth i'r haf gyrraedd, mae Wythnos Caru Parciau yn gyfle i ni anfon neges bwysig at ein holl drigolion; mae angen i ni Garu, Parchu ac Gwarchod ein parciau yn ystod haf 2021 a thu hwnt. Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan hanfodol o gadw'r mannau hyn yn hardd.”