Yng nghyfarfod y Cabinet heddiw (dydd Mercher 13 Ionawr), cytunwyd ar gyfres o gynigion tariff parcio yn unfrydol, gan gynnwys cael gwared ar y ffioedd talu ac arddangos ym 5 o barciau gwledig yr Awdurdod, gan fod y Cabinet yn cydnabod manteision iechyd sylweddol defnyddio'r safleoedd.
Mae'r cyfarfod yn dilyn penderfyniad a wnaed yn ddiweddar gan y Cabinet i estyn atal taliadau parcio ledled y Fwrdeistref Sirol tan ddiwedd mis Mawrth, mewn ymgais i helpu gweithwyr allweddol ac annog trigolion i siopa'n lleol ar gyfer cyflenwadau hanfodol.
Bydd y cynigion yn golygu y bydd parcio AM DDIM yn parhau ym meysydd parcio canlynol y Cyngor: Parc Coetir Bargod, Parc Cwm Darran, Parc Penallta, Pwll Pen-y-fan a Pharc Gwledig Cwm Sirhywi.
Dywedodd y Cynghorydd John Ridgewell, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, “Rydyn ni'n ffodus iawn o gael sawl parc gwledig anhygoel yn ein Bwrdeistref Sirol ac yn cydnabod y bydd ymweld â nhw yn cael effaith gadarnhaol ar les ein cymuned. Mae'n bwysig bod pawb yn parhau i gadw at y cyfyngiadau coronafeirws cyfredol, ond, ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu llacio ac ar ôl i'r cyngor ar deithio ac ymarfer corff newid, bydd trigolion ac ymwelwyr yn cael teithio i'r safleoedd hyn i fwynhau popeth sydd yno a pharcio am ddim.”