Next
Stack of felled timber
04.02.2021

Cau meysydd parcio ym Mharc Cwm Darran

Bydd y meysydd parcio ym Mharc Cwm Darran ar gau am gyfnodau byr yn ystod mis Chwefror ar gyfer gwaith atgyweirio.

Bydd ffordd fynediad ddeheuol Parc Cwm Darran, sy'n arwain i Faes Parcio'r Pysgotwr, ar gau rhwng 15 a 19 Chwefror ar gyfer gwaith arwynebu.

Bydd y prif faes parcio hefyd ar gau rhwng 17 a 20 Chwefror ar gyfer gwaith atgyweirio. Fodd bynnag, bydd y maes parcio gorlif ar agor yn ystod y gwaith hwn.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Peter Lewis ar 07900 570390 neu lewisp1@caerffili.gov.uk.