Next
Stack of felled timber
26.07.2021

Ymgyrch Priffyrdd Draenogod yn destun pigog

Mae tîm Cefn Gwlad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi lansio ymgyrch priffyrdd draenogod i amddiffyn y creaduriaid mewn perygl.

Mae ymchwil gan y People's Trust for Endangered Species a British Hedgehog Preservation Society wedi dangos bod y Deyrnas Unedig wedi colli chwarter o'i ddraenogod mewn deng mlynedd.

Mae amrywiaeth o resymau dros hyn: mae ffensys anhydraidd yn broblem fawr, ynghyd â cholli cynefin ar gyfer nythu a chwilota, effeithiau rhai peryglon a rhai arferion garddio.

Mae draenogod yn teithio tua milltir bob nos drwy ein parciau a'n gerddi yn eu hymgais i ddod o hyd i fwyd a phartner. Os oes gennych chi ardd gaeedig, mae’n bosibl eich bod yn rhwystro eu cynlluniau.

Bydd y Prosiect yn helpu i gysylltu gerddi gan ganiatáu mwy o le i ddraenogod fridio, dod o hyd i fwyd a'u cadw oddi ar y ffyrdd.

Os hoffech chi ein helpu ni i adeiladu ein priffyrdd draenogod, mae modd i chi wneud cais am un o'n pecynnau 'Priffyrdd Draenogod' am ddim.

Mae pob pecyn yn cynnwys plac ffens draenogod i amgylchynu'r twll yn eich ffens i ddraenogod ei ddefnyddio, twnnel arolwg draenogod, canllaw adnabod olion traed, a mwy. 

Rhaid eich bod chi'n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili i wneud cais am un o'n pecynnau draenogod. Bydd angen prawf cyfeiriad arnoch chi a bydd angen i chi gasglu eich pecyn.

Mae gennym ni 250 o becynnau i'w dosbarthu, ac os byddwch chi'n e-bostio lluniau o ddraenogod neu ganlyniadau eich arolwg, byddwch chi'n cael eich cynnwys mewn raffl i ennill un o 30 blwch nythu i ddraenogod ar gyfer eich gardd.

Gwnewch gais am eich pecyn draenogod am ddim trwy e-bostio CefnGwlad@caerffili.gov.uk. Os nad oes gennych chi fynediad at e-bost, ffoniwch 01443 816853 a gadael neges. I gofrestru, bydd angen rhoi eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost.

Noder: Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y Prosiect ‘Priffyrdd Draenogod’, byddwch chi'n cael Ffurflen Gais i'w llenwi a'i dychwelyd. Ar ôl i ni dderbyn eich Ffurflen Gais wedi'i llenwi, byddwn ni'n anfon eich Pecyn Draenogod. 

Bydd y pecynnau'n cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin ar gyfer pob ward er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cael eu dosbarthu'n deg ar draws y Fwrdeistref Sirol. Rhaid eich bod chi'n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ar hyn o bryd. Mae pob aelwyd ond yn gallu cael un pecyn.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 17 Awst 2021.