O ddydd Llun 20 Gorffennaf bydd yr holl ardaloedd chwarae a chamfeydd awyr agored a gaiff eu rhedeg gan y Cyngor yn ailagor i’r cyhoedd.
Hoffai'r Cyngor annog trigolion i barhau i fod yn ddiogel wrth ymweld â'n hardaloedd chwarae â'n campfeydd awyr agored. Cadwch at y canllawiau canlynol:
- Dim ond un oedolyn yng nghwmni'r plant ar y tro
- Dewch â hylif diheintio dwylo neu weips diheintio gyda chi, a'u defnyddio'n rheolaidd
- Peidiwch â dod â bwyd na diod i'r ardaloedd chwarae
- Gadewch i eraill adael cyn i chi fynd i mewn i'r ardal chwarae
- Gadewch yr ardal chwarae os bydd gormod o bobl yno
- Cadwch 2 fetr ar wahân i bobl eraill
- Cyfyngwch eich amser chwarae i hyd at awr a gadael i eraill fwynhau