Next
Stack of felled timber
08.12.2021

Disgyblion yn plannu perthi i geisio mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd

Mae disgyblion ysgolion uwchradd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn plannu perthi i geisio mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac i ddathlu Wythnos Genedlaethol Coed (28 Tachwedd i 6 Rhagfyr).

Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae'r Gwasanaeth Cefn Gwlad, Cyngor Caerffili, yn gweithio gydag ysgolion a thrigolion lleol i helpu brwydro yn erbyn effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae bron i 10,000 o goed wedi'u plannu yn y Fwrdeistref Sirol fel rhan o brosiect Plannu Perthi yr Argyfwng Hinsawdd.

Eleni, mae Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Ysgol Gyfun Cenydd Sant, Ysgol Gyfun Heolddu ac Ysgol Lewis Pengam yn cydio yn eu rhawiau i blannu 3,000 o goed ychwanegol wrth iddyn nhw greu perthi newydd ar dir eu hysgolion.

Yn 2019, fe ddaeth y Cyngor yr ail awdurdod lleol yng Ngwent i ddatgan argyfwng hinsawdd ac ymrwymo i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030. Mae'r prosiect blynyddol, ‘perthi gobaith’ – sy'n cael ei arwain gan Wasanaeth Ceidwaid Cefn Gwlad y Cyngor – yn mynd ati i gefnogi hyn trwy blannu coed a pherthi i helpu amsugno carbon.

Mae coed yn helpu cael gwared â nwyon tŷ gwydr a charbon deuocsid o'r aer, sy'n lleihau effeithiau cynhesu byd-eang. Dros nifer o flynyddoedd, mae coed wedi cael eu torri i lawr yng Nghymru gan adael dim ond 16% yn ardaloedd coetir, o'i gymharu â'r mwyafrif o wledydd Ewropeaidd sydd â 30%.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Whitcombe, Aelod Cabinet dros Gynaliadwyedd, “Mae mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, cynyddu cynaliadwyedd a gwarchod ein hamgylchedd er budd cenedlaethau'r dyfodol yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor, ac rydyn ni'n gwneud gwaith sylweddol i ddelio â'r mater hwn. Mae prosiectau fel y rhai sy'n cael eu darparu gan ein Gwasanaeth Ceidwaid yn bwysig, nid yn unig wrth helpu ein hamgylchedd, ond hefyd wrth ymgysylltu â'n pobl ifanc a'n cymunedau lleol; gan godi ymwybyddiaeth o'r newid yn yr hinsawdd, a'r rôl y mae'n rhaid i ni i gyd ei chwarae wrth fynd i'r afael ag ef.”