Next
Stack of felled timber
04.06.2021

Ailgysylltu â byd natur

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig pecynnau Plannu Llain er budd Peillwyr AM DDIM i drigolion, busnesau ac ysgolion i'w helpu nhw i gysylltu â byd natur trwy dyfu blodau gwyllt yn eu gerddi neu eiddo.

Mae tyfu blodau gwyllt yn eich gardd yn ffordd wych o ddenu bywyd gwyllt a bydd yn rhoi arddangosfa hardd o flodau gwyllt brodorol, ac nid oes angen llawer o le. Gall trigolion greu llain yn yr ardd neu hyd yn oed mewn pot ar y patio.

Mae gwenyn mêl a pheillwyr gwyllt – fel cacwn, gwenyn unig, gwenyn meirch, pryfed hofran, pili-palod, gwyfod, a rhai chwilod – yn beillwyr pwysig iawn.

Bydd y pecynnau hyn yn cynnwys hadau blodau gwyllt brodorol, taflen canllawiau hau ac ôl-ofal, taflenni adnabod peillwyr a thaflen gofnodi'r ganolfan gofnodion leol.

Ar ôl i chi gael eich pecyn, hoffem ni i chi ddarparu lluniau i ni ‘cyn’, ‘yn ystod’ ac ‘ar ôl’, yn ogystal â diweddariadau ynghylch yr hyn mae'r llain yn ei ddenu a pha mor dda mae'n tyfu, cofnodi'r rhywogaethau yn eich llain i beillwyr a'ch gardd, a rhannu'ch profiaduau ym myd natur â ni.

Bydd y pecynnau yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin ar gyfer pob ward, er mwyn sicrhau dosbarthu teg ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili. Rhaid i chi fod yn byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ar hyn o bryd i wneud cais, a gallwch chi ofyn am becyn o hadau am ardal rhwng 1m² a 10m². Dim ond un pecyn i bob cartref sy'n cael ei ganiatáu.

10 Mehefin 2021 yw'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru.

I gofrestru ar gyfer ‘Pecyn Plannu Llain er budd Peillwyr’, cysylltwch â CefnGwlad@caerffili.gov.uk neu os nad oes gennych chi fynediad at e-bost, ffonio 01443 816853 a gadael neges. I gofrestru, bydd angen eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost arnom ni.