Next
Stack of felled timber
02.02.2021

Atgoffa trigolion i beidio â gyrru i barciau gwledig na mannau harddwch

Atgoffir trigolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili i beidio â gyrru i barciau gwledig na mannau harddwch eraill i wneud ymarfer corff, oni bai fod ganddyn nhw reswm dilys fel y’i diffinir yn y rheoliadau.

Mae lefelau uchel o bobl yn parhau i ymweld â safleoedd ar draws yr ardal mewn cerbydau, gan arwain at Heddlu Gwent yn gofyn am gau’r maes parcio dros dro ym Mharc Penallta ddydd Sul 31 Ionawr.

Dywedodd Aelod Cabinet y Cyngor, y Cynghorydd John Ridgewell, “Rydyn ni’n cydnabod bod ymarfer corff yn bwysig ar gyfer ein hiechyd corfforol a meddyliol, ond mae deddfau bellach mewn grym sy’n atal teithio i safleoedd fel parciau gwledig ar gyfer ymarfer corff, oni bai fod gennych chi resymau penodol, fel gofynion anabledd.”

Ychwanegodd, “Roedd yn anffodus bod angen i ni gyfyngu mynediad at un o’n safleoedd ddoe, ond byddwn ni’n parhau i gydweithio â’n cydweithwyr yn Heddlu Gwent ac yn cymryd y camau priodol, os oes angen, i gadw’r gymuned yn ddiogel.”

Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden, “Rydw i am sicrhau trigolion nad ydyn ni’n cau ein parciau gwledig, ond rhaid i bawb fod yn ymwybodol o’u rhwymedigaethau o dan y cyfyngiadau cyfredol.”

Yn ystod cyfyngiadau lefel rhybudd 4, cewch adael eich cartref mor aml ag yr hoffech i ymarfer corff cyn belled ag eich bod yn gwneud hynny o’ch cartref, ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o’ch aelwyd neu swigen gefnogaeth.

O ddydd Sadwrn 30 Ionawr ymlaen, gallwch nawr ymarfer corff gydag un person o aelwyd arall. Rhaid i chi aros yn lleol – peidiwch â gyrru i gwrdd â'ch gilydd a chofio cadw 2 metr ar wahân.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y rheoliadau cyfredol yma:  https://llyw.cymru/lefel-rhybudd-4