Mae 600 o goed wedi cael eu plannu gan gymuned Caerffili ym Mharc Morgan Jones yn dilyn Diwrnod Plannu Cyhoeddus llwyddiannus.
Cafodd y digwyddiad ei gynnal gan y grŵp, Gweithredu Hinsawdd Caerffili, ac roedd yn cynnwys plannu 600 o goed yn ogystal â gweithgareddau llawn hwyl i'r teulu cyfan.Fe wnaeth ysgolion, Llamau (Dysgu am Oes) a'r cyhoedd i gyd gymryd rhan, gyda 450 o bobl yn dod i'r Diwrnod Plannu Cyhoeddus ar Ddiwrnod Gweithredu Byd-eang (6 Tachwedd).
Fe wnaeth tua 700 o bobl hefyd ymweld â'r Parc i gymryd rhan mewn gweithgareddau, gan gynnwys Coeden Ddiolchgarwch 30 troedfedd o hyd – wedi'i chreu gyda'r Arlunydd Tir, Kate Raggett – paentio wynebau, cerddoriaeth, dawnsio, adrodd storïau, gemau a chrefftau.
Roedd y digwyddiad yn nodi dechrau Coedwig Fach Caerffili, sef coedwig fach iawn sy'n cael ei chreu drwy ddefnyddio dull wedi'i ddatblygu gan fotanegydd o Japan, o'r enw Akira Myawaki. Mae'r goedwig wedi'i chynllunio i dyfu 10 gwaith yn gyflymach na choedwig gonfensiynol ac mae'n darparu llu o fuddion i helpu brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.
Mae Coedwig Fach Caerffili yn cynnwys ystafell ddosbarth awyr agored a phrosiectau gwyddoniaeth dinasyddion, a hi yw'r Goedwig Fach gyntaf dan arweiniad y gymuned yng Nghymru ac mae disgwyl iddi fod wrth galon y gymuned leol am flynyddoedd lawer.
Meddai Kate Raggett, Arlunydd Tirwedd, “Roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n anrhydedd cael bod yn rhan o'r digwyddiad lleol hwn, sydd o bwys yn amgylcheddol, a chael cyfle i lunio coeden fawr i ddathlu a diolch i'r holl goed.”
Ychwanegodd y Cynghorydd lleol, Jamie Pritchard, “Mae wedi bod yn wych i fod yn rhan o'r prosiect dros y 14 mis diwethaf a gweld y gymuned i gyd yn dod at ei gilydd. Bydd y Goedwig Fach yn gaffaeliad mawr i'r Fwrdeistref a bydd yn fan gwyrdd i bawb ei fwynhau am flynyddoedd i ddod. ”
Cafodd y prosiect Coedwig Fach ei ariannu gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, Llywodraeth Cymru; ei weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; a'i chreu gan Gweithredu Hinsawdd Caerffili, sef grŵp gwirfoddol lleol sydd wedi ymrwymo i gymryd camau i feithrin cydnerthedd Caerffili i newid hinsawdd ac i weithio gyda'r gymuned ar fentrau hinsawdd cadarnhaol.