Next
Stack of felled timber
18.03.2021

Cau Llwybr Beicio Cenedlaethol 47 ym Mharc Penallta Dros Dro

Bydd rhan fer o Lwybr Beicio Cenedlaethol 47, rhwng Nelson a Pharc Penallta, ar gau i bob defnyddiwr o 20:00 nos Sadwrn 27 Mawrth tan 17:00 brynhawn Llun 29 Mawrth.

Mae hyn er mwyn caniatáu ailosod y cwlfert o dan y rheilffordd a'r llwybr beicio. Bydd yr unig lwybr arall ar hyd yr A472 Heol Nelson.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Ganolfan Addysg ar 01443 816853 neu e-bostio CefnGwlad@caerffili.gov.uk.