Next
Stack of felled timber
30.07.2021

‘Theatre in the Wild’ yn dod i Barc Cwm Darran

Bydd Parc Cwm Darran yn cynnal Antur Fawr Olewydd ac Eira Theatre in the Wild rhwng 3 Awst a 31 Awst

Mae negeseuon anodd eu deall wedi cael eu gadael gan ddau anturiaethwr anarferol – mae angen eich help chi arnyn nhw i ddarganfod cyfrinachau pwysig sydd wedi'u cuddio o'ch cwmpas, a hyd yn oed o dan eich traed.

Crwydro, cerdded, teithio a chwilio drwy Barc Cwm Darran i ddarganfod y byd awyr agored. Gan gymryd rhan mewn heriau a gweithgareddau, gadewch i Olewydd ac Eira eich tywys chi ar yr antur fawr hon.

Antur sain i'r teulu cyfan. Pecyn gweithgareddau wedi'i gynnwys.

Mwynhewch yr antur unrhyw bryd y mae Parc Cwm Darran ar agor, nid oes angen cadw lle.

Mae canllawiau sain y llwybr ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae fersiwn wedi'i argraffu os oes angen.