Next
Stack of felled timber
15.09.2020

Canolfan Ymwelwyr Parc Cwm Darran a Chaffi Lakeside View

Yn anffodus, mae'n rhaid i Gyngor Caerffili a Chaffi Lakeside View gyhoeddi, oherwydd cyfyngiadau a rheoliadau parhaus Covid-19 a gostyngiad yn y seddi dan do sydd ar gael, nad yw'n ymarferol agor y caffi dros gyfnod y gaeaf a bydd y Caffi a'r Ganolfan Ymwelwyr yn cau ar 30 Medi.

Gobeithiwn eich gweld eto'r flwyddyn nesaf pan fyddwn yn ailagor ar 1 Ebrill 2021 a hoffem ddiolch i bob un ohonoch sydd wedi ymweld â ni eleni am eich cwsmeriaeth, eich amynedd a'ch dealltwriaeth o'r anawsterau yr ydym wedi dod ar eu traws wrth fasnachu eleni.