Next
Stack of felled timber
16.09.2021

Cadarnhau algâu gwyrddlas ym Mhwll Pen-y-fan

Mae tîm Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cyhoeddi rhywfaint o gyngor cyffredinol i drigolion, yn dilyn cadarnhau algâu gwyrddlas a allai fod yn niweidiol ym Mhwll Pen-y-fan.

Gall yr algâu gynhyrchu tocsinau a all fod yn niweidiol i bobl ac anifeiliaid. Mae trigolion yn cael eu cynghori i sicrhau nad yw anifeiliaid anwes, yn enwedig cŵn, yn mynd i mewn i ddŵr y Pwll – os yw anifeiliaid anwes yn dod i gysylltiad â'r dŵr, mae perchnogion yn cael eu cynghori i olchi'r anifail yn drylwyr â dŵr glân a chael cyngor gan filfeddyg cymwys.

Gall y tocsinau godi brech ar groen pobl sy'n eu cyffwrdd, a'u gwneud yn sâl os byddan nhw'n eu llyncu.

Mae rhagor o wybodaeth am algâu gwyrddlas ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd a Gwasanaethau Cymdogaeth, “Yn sicr nid bwriad y cyngor hwn yw peri pryder ond mae'n bwysig nad oes unrhyw weithgareddau hamdden, gan gynnwys pysgota na mynediad cyhoeddus yn digwydd a bod trigolion ac ymwelwyr yn ymwybodol na ddylid caniatáu i anifeiliaid fynd i mewn i ddŵr Pwll Pen-y-fan.

Mae arwyddion wedi'u gosod o amgylch y Pwll a bydd archwiliadau rheolaidd o'r corff dŵr yn parhau i ddigwydd, byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i'r afael â'r mater hwn.”

Gall trigolion sydd ag unrhyw bryderon ynghylch y mater hwn gysylltu â thîm Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar 01443 811355.