Next
Stack of felled timber
26.05.2020

Pysgota yn y Parciau Gwledig

Yn dilyn newid yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru, gellir pysgota bellach ym mhob llyn neu bwll sy'n eiddo i Gyngor Caerffili fel rhan o'ch ymarfer corff bob dydd ar yr amod eich bod yn parhau i gadw at y canllawiau canlynol:

•     Pysgota yn eich ardal leol

•     Dilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol a chanllawiau Llywodraeth Cymru bob amser yn ystod eich ymweliad

•     Rhaid cael trwydded pysgota â gwialen ddilys

•     Cadw at is-ddeddfau pysgodfeydd gan gynnwys y tymor caeedig

•     Cael caniatâd gan berchennog y bysgodfa

•     Rhaid peidio â gyrru i'r parciau gwledig i bysgota; mae'r meysydd parcio ar gau ar hyn o bryd

•     Rhaid peidio â theithio i Gymru o Loegr at ddibenion genweirio

•     Parhau i wirio'r canllawiau cyfredol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a'r dudalen we hon i gael unrhyw ddiweddariadau pellach.