Next
Stack of felled timber
15.02.2021

Cartrefi o dan y morthwyl

Ydych chi wedi sylweddoli bod yr adar yn canu unwaith eto? Mae'r gwanwyn ar y gweill ac ar hyn o bryd, mae ein hadar yn chwilio am leoedd addas i nythu. Mae'r rhan fwyaf o'n coed mewn parciau gwledig yn ifanc gydag ychydig iawn o dyllau nythu. Felly, gan ei bod yn Wythnos Genedlaethol Blychau Nythu bydd Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor yn dangos sut maen nhw wedi bod yn helpu i ddarparu safleoedd nythu newydd gyda chymorth gan blant ysgolion lleol.

Y llynedd, llwyddodd Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor i wneud cais am ‘Gyllid Partneriaethau Natur Lleol’. Roedd yr arian hwn yn golygu y gellid prynu 60 blwch nythu arbenigol ac maen nhw nawr yn cael eu gosod ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae'r blychau wedi'u creu o ddeunyddiau o ansawdd uchel, gan ddarparu safleoedd nythu parhaol a diogel i amrywiaeth o adar, ystlumod a hyd yn oed wenyn.

Ychydig cyn y cyfyngiadau symud fe wnaeth Grŵp Eco Heolddu adeiladu blychau nythu i wenoliaid. Mae gwenoliaid yn adar sy'n byw yn Affrica yn ystod y gaeaf ac yn dod i Gymru yn ystod yr haf i fridio. Yn anffodus, mae nifer y gwenoliaid wedi gostwng 50% yn ystod y 25 o flynyddoedd diwethaf. Er mwyn ceisio helpu, gosodwyd blychau nythu arbennig y Grŵp Eco ar adeilad yr ysgol.

Hefyd, cadwch lygad am ein canllaw fideo cam wrth gam sy'n dangos sut y gallwch chi hefyd greu blwch nythu i'ch cartref.

#BywydauIachMannauIach