Next
Stack of felled timber
15.04.2020

Torri Llarwydd yng Nghwm Sirhywi

Mae'r gwaith wedi'i gynllunio i dorri llarwydd sydd wedi'u heintio â Phytopthera ramorum, a elwir yn fwy cyffredin fel clefyd llarwydd, wedi cychwyn yng Nghwm Sirhywi. Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud gan gontractwyr ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru ar ddwy ochr y cwm a dylid ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2020. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am y gwaith ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru gan gynnwys map y lleoliad.

Mae oddeutu 30 hectar o larwydd heintiedig ar ochr Parc Gwledig Cwm Sirhywi y cwm y bwriedir eu torri i lawr dros y misoedd nesaf. Er nad oes yr un o'r llarwydd heintiedig ar dir Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, mae'n anochel y bydd y gwaith yn cael effaith ar ddefnyddwyr y parc unwaith y bydd y parc yn ailagor. Wrth i'r contractwyr glirio'r coed yn agos at y ffin rhwng tir Cyfoeth Naturiol Cymru a thir Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, bydd angen iddynt osod parth gwaharddedig ddwy goeden o hyd o amgylch unrhyw goed sy'n cael eu torri i lawr. Oherwydd agosrwydd y ffin i ffordd fynediad y maes parcio a'r llwybr beicio, bydd y parth gwaharddedig hwn yn gweithredu ar sail dreigl rhwng y Lleuad Lawn a Nine Mile Point pan fydd y cyfyngiadau Covid-19 cyfredol wedi'u codi.

Dilynwch yr holl arwyddion a chyfarwyddiadau a roddir er mwyn eich diogelwch eich hun.

Cofiwch fod y parc gwledig ar gau i bob ymwelydd ar hyn o bryd yn dilyn penderfyniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gau pob man chwarae caeedig i blant, man chwarae aml-ddefnydd, parc sglefrio, parc trefol a pharc gwledig yn unol ag adran 9 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 IECHYD CYHOEDDUS, CYMRU.

Bydd rhagor o wybodaeth am y gwaith fel y mae'n effeithio ar y parc gwledig yn cael ei phostio yma.