Next
Stack of felled timber
10.02.2021

Perth newydd ar gyfer y Lleuad Lawn

Mae perth newydd wedi'i phlannu yn y Lleuad Lawn ym Mharc Gwledig Cwm Sirhywi i wella'r fynedfa o ran ei gwerth i'r dirwedd a bywyd gwyllt. Mae cymysgedd o goed llydanddail brodorol, gan gynnwys ffawydd, drain gwynion a choed cyll, wedi'u plannu yn y berth 50 metr o hyd.

Dywedodd Nye Minton, Gwarcheidwad ar Brentisiaeth y Gwasanaeth Cefn Gwlad, “Bu'n rhaid i ni symud hen ffens bydredig ar ben y llethr. Yn dilyn gwaith clirio diweddar o'r llarwydd ar tir cyfagos Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'n llawer mwy golau yn yr ardal ac roeddem ni o'r farn y byddai perth newydd yn ddewis gwell na ffens.”

Ymhen amser, bydd y berth newydd yn rhwystr parhaol yn ogystal â darparu cynefin pwysig i fywyd gwyllt.